成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Dre
Bwyd, Bwyd, Bwyd..
Ebrill 2003
Bwyd Drwg
Cefais fy mhryd gwaethaf erioed mewn pentref bychan wedi ei adeiladu ar byst yn y m么r yng Ngorllewin Gwlad Thai, ger yr ynysoedd lle ffilmiwyd un o luniau James Bond, a heb fod yn rhy bell o'r fan lle ffilmiwyd 'The Beach' yn ddiweddarach.
Cawl oedd y bwyd cawl o fwyd m么r wrth gwrs. Fedra i ddim dioddef bwyd m么r mae'n codi rash, mygodd, llygaid yn chwyddo a chosi, a chur pen arnaf. Yr wyf hefyd, diolch am hynny, yn cas谩u ei flas. Wel doedd dim arall i'w gael a doedd fiw pechu yn erbyn pobl y pentref, felly bu rhaid ei fwyta. Credaf mai dwr m么r wedi ei how gynhesu oedd, a phob math ar ddarnau rhyfeddol o bysgod ac ymlusgiaid y m么r wedi hanner marw ynddo. Efallai fy mod yn gorliwio ychydig bach, ond wir, yr oedd y darnau fel pe baent yn ymladd i nofio yn y pwll heli.

Tydi cyri pennau pysgod pobl ddlawd Bangladesh ddim yn hawdd i'w fwyta 'chwaith, ac mae llyfu ceg a gofyn am ail blatiad yn anodd, er dwi wedi gorfod gwneud. Ond dyna fo, bwyd pobl dlawd iawn ydyw'r ddau a rhaid dangos parch.

Beth am fwyd ein pobl dlawd ni ein hunain, pan oedd miloedd o bobl Cymru'n dlawd go iawn. Arferai nhad ddweud na fu 'rioed un dim mor flasus a bechdan ddripin ei fam. Gan ei fod yn un o dri ar ddeg o blant, 'roedd yn wyrth eu bod yn cael bechdan ddripin reit siwr. Mae ein cegau ni wedi eu hen ddifetha hefo bwydydd a gormod o flas arnynt, a phob mathau o gemegolion afiach hefyd.

Bara Cwrw oedd ffefryn un o'm neiniau, yn y dyddiau pan oedd mynd ar Faidd yr I芒r, sef gloywon llaeth ar 么l tynnu'r caws ohono. Cnocid wy yn ei lygad, ynghyd 芒 siwgr, neu f锚l, a bara a dwr neu lefrith iddo fynd ymhellach. Yr oedd bechdan jam yn dr卯t, a phan oeddwn yn blentyn bach, ni fyddai plant drwg mewn llyfrau a chomics, byth yn dwyn fferis na bisgedi o'r cwpwrdd, ond llwyeidio jam neu siwgr i'w cegau bach barus, hen-ffasiwn. Hoffai fy mam fechan siwgwr, a bechdan bara ceirch, a finnau fechdan bys (pys clwt).

Beth am yr erchyll ryset hwn o lyfr 'cwrci' fy mam yn y Cownti ers dalwm tua 1929.

Griwal i Rywun Gwael
Llwy fwrdd o flawd ceirch
Peint o ddwr
Siwgr neu halen

Berwi'r dwr, a chymysgu'r ceirch efo mymryn arall o ddwr oer cyn ei roi yn y dwr berw a'i ferwi a'i droi am tua deng munud, yna rhoi'r halen neu siwgr ynddo a'i dywallt i bowlen l芒n, gyda phwyslais ar y gl芒n. Wn i ddim os credai Lilian Gibb (Advanced Cookery Diploma) fod genod bach ysgol yr oes yn dod o gartrefi budron ai peidio.

Mae rhai pobl yn hoff o draed moch wedi eu berwi, a phrin y gallaf feddwl am ddim gwaeth sydd ddim o'r m么r. Er, ces draed ieir wedi eu berwi unwaith, mewn caffi ym Malaysia. Roedd croen y fferau a'r traed yn bigau bach croen gwydd, melyn drostynt.

Cefais damaid bach (iawn) o grocodeil ac estrys yn ddiweddar, a 'doedd rheini ddim mor ddrwg. Mae ein lobsgws heddiw'n flasus, ond go dila fyddai un dall, heb gig gan y tlodion ers dalwm. Mae Mis Ebrill yn fis oen - pethau blasus sydd gen i rwan - a does dim tebyg i rag o oen hefo garlleg a rhosmari. Mae rhosmari mor hawdd i'w dyfu dim ond t'rawo coesyn bach ohono yn y pridd a mi ddaw. Pan welaf i dwll gwag yn yr ardd, byddaf yn sdicio sbrigyn yno a chaf lwyn yn bur sydyn. Tatws newydd a moron a chabeitsian efo fo a grefi oen yn ei foddi.
Gwenllian Jones


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanrug):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy