Wel yr ateb ydy Bryan Orritt, un o hogia Dre. Roedd Bryan yn aelod o d卯m Birmingham City a chwaraeodd yn ffeinal yr Inter Cities Fairs Cup ym 1961 yn erbyn Roma. Gemau dau gymal oedd y rheiny ers talwm ac yn y cymal cyntaf yn Birmingham sgoriodd Bryan ail gol ei d卯m.
Yn anffodus fe sgoriodd Manfredini ddwy i Roma hefyd, ac yn waeth byth yr Eidalwyr enillodd yn Rhufain o ddwy g么l i ddim. Gadawodd Bryan Orritt Ysgol Syr Hugh Owen yn 15 oed i fod yn brentis ffitar yn Saunders Roe ym Miwmares. Chwaraeodd i Lanfairpwll yn 15 oed cyn ymuno 芒 Bangor fel amatur ym 1953. Yn ddeunaw oed ymunodd yn llawn amser 芒 Birmingham. Chwaraeodd deirgwaith i d卯m dan 21 Cymru gan sgorio'r unig g么l yn y g锚m gynta erioed i'r oedran hwnnw yn erbyn Lloegr. Yr ail g锚m oedd honno yn erbyn yr Alban. Un g么l yr un - Bryan yn sgorio eto.
Wedi 5 mlynedd yn Birmingham symudodd i Middlesborough cyn i anaf drwg ei anfon i Durban, De Affrica ym 1966. Ac yn Ne Affrica y mae o heddiw, yn byw yn Johannesburgh.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |