Wrth ei waith bob dydd mae o'n swyddog gyda Chyngor Gwynedd - 'Delio efo fflei tips a balIu,' - ond bob pnawn Sadwrn sgorio ceisiau yw ei ddilet.
Mewn pymtheg g锚m y tymor yma mae Dewi wedi croesi'r llinell gais 17 o weithiau. Tipyn o record i'r blaenasgelIwr 24 oed o Rhos Isaf.
Chwarae ffwtbol oedd Dewi Williams hyd nes ei fod yn dair ar ddeg oed. Ond erbyn hynny roedd o wedi mynd yn rhy dew, medda fo, i chwarae'r b锚l gron o ddifri.
FelIy fe'i perswadiwyd i chwarae prop i d卯m rygbi'r ysgol gan Ieuan Jones, ei athro ymarfer corff yn Syr Hugh, ac un o hyfforddwyr presennol clwb rygbi Dre.
Bu'n chwarae fel bachwr am flynyddoedd wedyn, fel aelod o d卯m Coleg y Drindod, Caerfyrddin a Carmarthen Athletic.
Chwaraeodd hefyd i d卯m Prifysgolion Prydain yn erbyn Lloegr yn 2003.
Daearyddiaeth a Chwaraeon astudiodd Dewi yn y Drindod, a'i arwyr ym myd y campau ydy Muhammad Ali a chyn flaenasgelIwr y Crysau Duon, Josh Kronfeld.
Yn ddwy ar hugain oed, fodd bynnag, yr efelychodd Dewi ei arwr o Seland Newydd a dechrau gwisgo'r crys rhif 7.
Dyna pryd y cafodd 'chydig o drafferth gyda disg yn ei wddw.
Ac nid canol y rheng flaen ydy'r lle i fod ar gae rygbi os ydy'ch gwddw chi'n dechrau gwanio.
Ers hynny mae'r Tractor wedi bod yn beiriant sgorio ceisiau cyson a chyda phedair gem ar 么l y tymor hwn mae siawns gwirioneddol ganddo o groesi'r ugain.
Ac o le daeth y 'Tractor?' Mae'n credu iddo gael ei lys-enw am fod ei da, Gwilym, yn gontractor a chanddo JCB!
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |