Mae Claire yn gweithio fel cydlynydd marchnata i'r Gwasanaeth Gwaed Cenedlaethol yn Ysbyty Bryn Seiont ond yn crwydro'r gogledd wrth ei gwaith. Roedd yr alwad ff么n yn gofyn iddi fynd am brawf gwaed, ond prawf gwaed go arbennig. Mae Claire, fel ei rhieni, wedi hen arfer rhoi gwaed a hynny cyn iddi gael ei swydd bresennol. Wrth fynd i roi rhagor tua dwy flynedd yn 么l gwelodd boster yn gofyn am sampl gwaed arall ar gyfer y cofrestr m锚r esgyrn (bone marrow). Dyna gychwyn taith Claire. Mi roddodd Claire y sampl gwaed ac anghofio bron amdano nes iddi hi gael yr alwad ff么n yn y maes parcio hwnnw. Roedd gwaed Claire yn matsio efo gwaed rhywun oedd angen mer esgyrn ond roedd gofyn cael mwy o waed i wneud profion pellach. Aeth Claire yn 么l at ei meddyg dair gwaith i roi gwaed cyn cael ei galw i Lerpwl i gael medical llawn i wneud yn si诺r ei bod yn ddigon iach i roi m锚r i glaf. Ymhen pythefnos wedyn roedd hi yn Newcastle, yn y Royal Victoria Infirmary yn barod i gael y driniaeth. Roedd na elfen o frys yn y diwedd. Mi aeth i'r ysbyty ar y nos Iau yn barod ar gyfer ei thriniaeth y bore wedyn. Mi fuodd hi yn y theatr am bron i awr. Mae'r driniaeth yn ddigon syml sef rhoi 2 syringe i ganol yr asgwrn er mwyn tynnu'r m锚r allan. Mae Claire yn cyfaddef ei bod mewn dipyn o boen am yr hanner awr cyntaf wedi'r driniaeth ond yna mi gafodd ddigon o dabledi lladd poen i'w helpu. Mi aeth hi adref y diwrnod wedyn ac erbyn hynny roedd y cleisiau yn dechrau dod i'r golwg! Roedd yn rhaid iddi hi aros adref o'r gwaith am wythnos yn dod ati'i hun a chymryd tabledi lladd poen. Ond erbyn diwedd yr wythnos roedd hi'n ddigon da i fynd yn 么l i'w gwaith. Os ydach chi'n rhoi m锚r i rywun heblaw teulu, chewch chi ddim gwybod pwy sy'n ei dderbyn rhag ofn i'r driniaeth fod yn fethiant. Dyna'r drefn, ond nid dyna ddiwedd stori Claire. Ychydig o wythnosau yn ddiweddarach, mi dderbyniodd Claire amlen ddieithr. Agorodd yr amlen ac estyn cerdyn oedd yn diolch iddi hi yn syml. 'Sgrifen plentyn sydd ar y cerdyn ac mae Claire yn meddwl mai hogyn bach wnaeth o. "Dydw i ddim yn gwybod go iawn! Ond mae'r lliwiau yn edrych fel lliwiau hogyn!" Roedd Claire wedi rhoi gwaed sawl gwaith cyn iddi weld y poster yn gofyn am sampl arall ond mae hi'n diolch gymaint iddi hi benderfynu gwneud y diwrnod hwnnw. Mae hi'n gobeithio'n arw i'r mer arbed bywyd. Ond gobaith mwyaf Claire ydy y bydd ei stori hi yn annog pobl eraill i wneud yr un fath a rhoi gwaed a rhoi sampl i'r cofrestr!
|