Ofn uchder ydy hynny a gyrrwr craen ydy Clive. Fo ydy gyrrwr yr anghenfil glas welwch chi ar Ffordd Llanberis ar safle adeiladu y llysoedd barn newydd. Wrth ei waith, ganddo fo y mae'r golygfeydd gorau yng Nghaernarfon.
Mae'r craen 11 darn yn 34.8 metr (114 troedfedd) o uchder a'i fraich yn 45 metr o hyd. Mae hynny bron i 150 troedfedd. Does ryfedd felly fod 'na falast o dros ugain tunnell o goncrid ar gefn y fraich i gadw cydbwysedd.
Wyth awr gymer hi i adeiladu'r craen - efo craen arall, wrth gwrs, un o'r rhai enfawr hynny a welwch chi ar ein priffyrdd o eiddo Bob Francis a'i debyg.
Bu'r craen a Clive ar y safle ers blwyddyn bellach ac mae'r gyrrwr yn aros yn Dre yn ystod yr wythnos a theithio 'nol i'w gartref ym Mhenarl芒g (Hawarden) bob penwythnos.
Ond tydi o ddim yn gweithio bob dydd chwaith. Y tywydd, ac unrhyw wynt dros 37 milltir yr awr, sy'n penderfynu hynny. Ond pan fydd o'n dringo'r grisiau i'r caban bach 'na yno bydd o drwy'r dydd gyda'i focs bwyd - a photel fawr, rhag ofn i natur alw!
Y gobaith ydy y bydd yr adeilad wedi'i gwblhau erbyn mis Gorffennaf ond fe fydd y craen, o eiddo Balfour Beatty, yn cael ei ddatgymalu ymhen rhyw chwe wythnos: a lle bynnag y bydd y craen yn mynd fe fydd Clive yn mynd hefyd.
|