成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Dre
Gwynfor O'r Dre i Gwm Deri
Chwefror 2006
Pwy 'sa'ch chi'n ddeud ydi'r actor sy' wedi ymddangos fwyaf ar Pobol y Cwm? Gan mai drama wedi ei gosod yn y de ydi hi, be am rywun fel Reg Harries/Huw Ceredig neu Sabrina/ Gillian Elisa?
Yr ateb yn ddigon syfrdanol ydi dau o'r ectras, Mal a Gwynfor. Un o hogia dre ydi Gwynfor, wedi ei fagu yn Cae Garw a'i eni yn Nh欧'r Eglwys, Llanbeblig. Mae o a Mal wedi bod yn gymeriadau amlwg yng Nghwmderi ers dros ugain mlynedd.

Nid actio oedd cysylltiad cyntaf Gwynfor 芒'r byd adloniant ond cerddoriaeth. Drymiwr ydi Gwynfor ac mae o wedi chwarae efo Crysbas, Dr Hywel Ffiaidd a Dalek Babies ac mae'n dal i chwarae efo'r 'Cwm-itments' - criw o dechnegwyr a pherfformwyr Pobol y Cwm, gydag Arwyn Davies (sy'n portreadu Mark yn y gyfres) yn brif leisydd.

Er ei fod bellach yn ennill ei fara menyn drwy berfformio nid hynny aeth 芒 fo i Gaerdydd. Roedd o'n gweithio efo Cavendish Woodhouse yng Nghaernarfon ac fe symudodd efo nhw i Gaerdydd. Tra yno fe gafodd gais i wneud diwrnod o waith fel ecstra ar Pobol y Cwm. Wedi i gynhyrchwyr y rhaglen gael ar ddeall ei fod yn siarad Cymraeg fe aeth y diwrnod yn ddyddiau ac yn wythnosau, gan gynnwys ambell ddarn siarad. Dros ugain mlynedd yn ddiweddarach mae o'n dal i fod yno.

Mae 'na duedd efo actorion oper芒u sebon iddyn nhw fod yn actorion un rhaglen, ond nid felly Gwynfor gan ei fod wedi bod yn ecstra ar nifer o gynyrchiadau gan gynnwys Casualty, Emmerdale, Crossroads a nifer o rai Cymraeg fel Rargian Pawr efo Gari Williams.

Fe wnaeth o Rargian Pawr tra roedd o yng Nghaernarfon cyn mynd lawr i Gaerdydd, dros ugain mlynedd yn 么l. Bellach, wrth gwrs, mae o'n wyneb cyfarwydd iawn ar Pobol y Cwm a'r tro nesaf y byddwch yn gwylio mae 'na gyfle go dda y cewch chi gipolwg ar un o hogia dre.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy