成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Dre
Einion Angel (Chwith) ac Alun Roberts, 'Cwstard' Penblwydd Rygbi Hapus
21 Tachwedd 2003
Roedd Clwb Rygbi Caernarfon yn 30 oed yn ddiweddar, ac mae llyfryn o atgofion wedi'i gyhoeddi yn arbennig i ddathlu'r pen blwydd. Bu PAPUR DRE yn sgwrsio gyda chapten cyntaf y clwb, Alun Roberts.

Deg ar hugain ydy'r pen-blwydd swyddogol ond roedd gan Clwb Rygbi Caernarfon gyfrif banc n么l ym 1960.

"Roedd 'na griw ohonan ni yn chwarae yn erbyn Llandudno bob Boxing Day," meddai Alun 'Cwstard' Roberts, capten cyntaf Clwb Rygbi Caernarfon. "G锚m yn y pnawn, dw mawr yn nhy Harland Greenshields yng Nghaeathro wedyn ac yna lawr i'r Royal i ddawnsio. Fe waethon ni hyn am flynyddoedd ond methu a chael digon o chwaraewyr i sefydlu clwb go iawn bob tro.

"Roedd y cyfri banc reit iach ond fe rannon ni'r arian hefo Llandudno yn y diwedd jyst cyn i ni ddechrau'r clwb yn swyddogol"

Roedd hynny ym 1973. Cafwyd pwyllgor yn y Marbryn efo pobl fel y diweddar Des Treen, Stuart Gifford a Wally Hewer. "Roeddwn i, Einion Angel a Clive James yno hefyd os cofia i'n iawn," meddai Alun.

Einion oedd ysgrifennydd cynta'r clwb a syndod i rai efallai fyddai deall mai'r hyfforddwr ffitrwydd oedd Wyn Davies, Mr P锚l-droed ac athro ymarfer corff Syr Hugh.

"Roedd Wyn yn gr锚t ac Einion a finna wedyn yn gyfrifol am hynny o dactegau oedd ganddon ni," meddai Alun.

"Yn y Hole in the Wall oeddan ni'n cyfarfod ar y dechra. Ond fe gerddon ni rownd Dre - o Twtil i Black - cyn prynu'r hen glwb yn L么n Gas."

Yr adeilad chwedlonol hwnnw yn Ffordd Santes Helen fu cartre'r clwb wedyn am bron i ddeunaw mlynedd. Mae llu o atgofion rhwng ei furiau: nosweithiau Bara Caws, nosweithiau Ffrengig unwaith y mis heb s么n am wythnos anhygoel y Steddfod Genedlaethol ym 1979. Cymerwyd ymhell dros ugain mil o bunnau tu 么l i'r bar yr wythnos honno a wnaiff Alun byth anghofio'r nos Sul gynta. Roedd y Dre yn sych ar y Sul bryd hynny ac roedd 'na giw o gyfeiriad yr Albert dros y lein i lawr am y clwb pan gyrhaeddodd Alun, at ei ben ei hun bach, i agor.

Do, gwagiwyd sawl casgen yr wythnos honno. Er, ni fu'r clwb yn enwog am safon ei gwrw bob tro. Cofia Alun yn dda y drafodaeth fu am brynu coolers. Rheiny neu beiriant sgrymio oedd y pwnc dadleuol. Penderfynwyd ar y 'coolers' o un bleidlais - wrth lwc. Roedd Alun wedi eu harchebu cyn y bleidlais! Prysurwn i ddweud fod y peiriant sgrymio wedi cyrraedd yn fuan ar 么l hynny hefyd.

Ac fe'i defnyddiwyd yn helaeth i sicrhau fod rygbi yn dal i gael ei chwarae yn Dre ar 么l deng mlynedd ar hugain.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy