成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Dre
Alun Jones Gwaith yn galw
Ionawr 2010
Pan fo'r ff么n yn canu fe fydd Alun Jones o Bengelli Wyn yn pacio'i fag ac yn mynd i ble bynnag y bydd ei gyflogwr yn ei anfon.

Fe gafodd un o'r galwadau hynny wythnos cyn Dolig.

Fore trannoeth roedd o ar ei ffordd i Nigeria.

O'r herwydd fe gollodd yr 糯yl gartref efo'i deulu gan dreulio dydd G诺yl San Steffan yn teithio n么l i Gaernarfon.

Mae Alun yn gweithio i un o gwmn茂au mwya'r byd - os nad Y mwyaf - sef General Electric, a sefydlwyd ym 1892.

Mae 323,000 yn gweithio i GE ac Alun yn un o'r rhai breintiedig hynny.

Peiriannydd ynni sy'n gweithio gyda tyrbeins a sustemau cyfrifiadurol ydy Alun.

"Aero energy", oedd y term ddefnyddiodd o. Nid aeth y gohebydd i holi'n llawer dyfnach dim ond sylweddoli a gwerthfawrogi ei fod yn waith arbenigol iawn ac sy'n golygu bod Alun, cyn ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, wedi teithio'r byd yn y ddwy flynedd y bu'n gweithio i General Electric.

Yn y cyfnod byr hwnnw bu yn yr Unol Daleithiau, Twrci, Israel, Norwy, Kuwait, Sbaen a Nigeria gan weithio'n achlysurol yn y gwledydd hyn yn ogystal.

Mae pencadlys GE ym Mhrydain yn Lincoln. Yng Ngholeg Llandrillo y cychwynnodd y daith mewn gwirionedd - dwy flynedd yno ar 么1 yr ysgol yn astudio peirianneg electronig ac yna tair blynedd arall yn astudio yn Wrecsam.

Wedyn chwilio am waith, a chael y bachiad delfrydol gyda General Electric.

"0 fewn dim i ddechra gweithio i GE ges i'n anfon i Sbaen am fis," meddai Alun. "Roedd hynny'n braf iawn." Ac er ei fod yn cael aros mewn gwestai moethus gan amlaf, tydi bywyd ddim yn fel i gyd drwy'r amser.

Er ei fod yn gwerthfawrogi'r gwmn茂aeth, tydi cael ei anfon ar rigiau olew oddi ar arfordir yr Alban ddim yn brofiad y mae Alun yn ei fwynhau gymaint a hynny.

"Tydwi ddim yn rhy hoff o helicoptars," meddai. " Er bod pawb sy'n gorfod mynd ar y rigs yn cael hyfforddiant mewn simulator ac yn esgus crasho i bwll nofio a ballu, pan dwi yn yr helicopter go iawn, dwi'n dal ddim yn rhy c矛n arni !"

Ond mae Alun wedi gweithio oddi ar arfordir Aberdeen sawl gwaith."

Chwe wythnos ydy'r cyfnod hira gei di weithio ar y rigs," ychwanega.

'Dyw gweithio mewn gwlad dramor gynnes ddim mor braf a hynny bob tro chwaith. Mynd a rhan allweddol (a'i gosod) i injan oedd wedi torri mewn ffatri sment fawr oedd ei dasg ddiweddaraf yn Nigeria.

Saith awr o hedfan i Lagos a phum awr mewn car wedyn a'r daith honno yn cynnwys tri char i gyd - y car yr oedd Alun ynddo a dau gar arall o bopty yn ei warchod.

"Roedd gen i 5 bodyguard", meddai, " achos ti byth yn gwybod be ddigwyddith yn Nigeria.

"Ma dwyn - rwbath - yn rhemp yno. O'dd 0 braidd yn scary tro cynta - fus i yno ym mis Mawrth llynedd hefyd - ond doedd hi ddim mor ddrwg tro yma."

Ofnus neu beidio mae Alun yn mwynhau ei waith a'r amrywiaeth o lefydd mae'n cael ymweld a nhw.

A dweud y gwir, does ryfedd yn y byd ei fod yn hoff o deithio gyda'i dad yn gweithio i Stena a'i fam yn un o berchnogion cwmni'r Seren Arian!

Ond lle nesa i Alun? Does ganddo ddim syniad, nes canith y ff么n na!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy