成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Dre
Y Grwp Doctor Dal i gofio Tanybont
Rhagfyr 2003
A chanolfan Tanybont bellach wedi chwalu, atgofion melys sy gan lawer o bobol dre am ddiwedd y 70au pan oedd hi'n oes aur ar ganu roc Cymraeg.
Y mis dwytha, Malcolm Lloyd a Huw Jones o'r Cyffro a Rhys Harris o'r Trwynau Coch oedd yn edrych yn 么l ar y dyddiau da, ond nid nhw ydi'r unig hen rocars sy'n dal o gwmpas Dre.

Rhiannon Tomos: Roedd Tanybont yn lle pwysig iawn iawn yn Steddfod Caernarfon (1979). Mi oedd y lle'n llawn bob pnawn ar gyfer sesiynau roc efo grwpiau Cymraeg newydd o bob math o steil. Dyna lle dechreuodd Ail Symudiad: roedd pobol yn dechra gweld fod rhywbeth da yn digwydd. Mae'r cyfnod hwnnw'n cael ei gyfri fel oes aur pop Cymraeg, ac yn Nhanybont y dechreuodd petha godi sb卯d.

O'n i wedi dechrau canu efo band blws a jazz yng Ngholeg Bangor yn y Steddfod Rynggolegol, ac mi benderfynon ni ganu yn sesiwn Sgrech yn Nhanybont. Doedd gennon ni ddim enw hyd yn oed; dyma'r trefnydd yn ein galw ni'n Grwp Rhiannon Tomos, oedd yn eitha naff - wnaethon ni newid wedyn i Rhiannon Tomos a'r Band.

Mae pawb yn meddwl am Gaernarfon fel prifddinas y Gymru Gymraeg, ond nid y diwylliant gwleidyddol Cymraeg ydi diwylliant y Dre. Traddodiad brenhinol, milwrol Prydeinig sydd yma, ond mi ddaru 'Tnybont roi cyfle i lot o bobol Caernarfon weld mai nid jyst peth Welsh nash oedd canu pop Cymraeg, a rhoi hyder iddyn nhw fel Cymry.

Cynhyrchydd efo Cwmni Da yn L么n Parc ydi Gwyn Doctor erbyn hyn: Be sy'n rhyfedd ydi, fel band, sgin i ddim co' chwarae yna. Mwy o go' mynd yno i weld bandiau er'ill sy gen i. O'n i'n byw adre yn Llanfairfechan ar y d么1 ac yn ista'n ty'n gneud dim drwy'r wythnos, ond ar bnawn Sadwrn, dal bys i Fangor i Farrar Road, wedyn ar 么l y g锚m, draw i G'narfon a'r Blac Boi.


Ymlaen wedyn i Danybont, a Louie Aberdyfs ar y drws - boi calad, o'n i'n meddwl. Cofio pawb to allan ar 么l y gig tua hanner nos, achos doedden nhw ddim yn agor yn hwyr iawn bryd hynny, yn istedd ar y wal fach dros y ffordd yn siarad a malu awyr a chwdu. Hwnna oedd y lle i weld pawb yn dre ar ddiwedd nos Sadwrn.'

Dygs Ficar (sef Dylan Huws, sydd hefyd yn gynhyrchydd efo Cwmni Da): Dwi'n cofio bod hi'n gystadleuaeth ffeindio'r ffordd fwya cymhleth o fynd i mewn i'r lle heb dalu. Un ffordd oedd cael criw i ruthro'r drws - mi fasa'r rhan fwya'n cael eu dal, ond mi fasa un bob amser yn llwyddo i gael i mewn.

Wedyn oedd 'na ffordd o fynd i'r cefn, dringo wal a cherdded ar hyd-ddi ac i mewn drwy ffenast y toilet!

Yn Nhanybont y chwaraeodd y Ficar ein gig cynta, ar Ragfyr 21 1980, yn y pnawn. yn chwarae sypr么t i Angylion Stanli, ond gweld Jarman yno ydi'r cof mwya i mi. Mae Tanybont yn ganolfan bwysig iawn o safbwynt canu pop Cymraeg: mae gan Lundain ei Marquee, Lerpwl y Cavern, Manceinion yr Hacienda ac Efrog Newydd HeebeeGeebees, ac mae gan Gaernarfon Tanybont. Ddylen nhw werthu'r cerrig fesul un fel y gwnaethon nhw efo Berlin.'


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy