Felly, gan fod cymaint o s么n y dyddiau hyn am y datblygiadau sy'n mynd ymlaen yn yr hyn a elwir yn Doc Fictoria, meddyliais mai da fyddai troi'r cloc yn 么l 139 o flynyddoedd i 1868, sef y flwyddyn y gosodwyd carreg sylfaen yr hyn a elwid, bryd hynny, yn Harbwr Newydd y dref.
Roedd Pier Fictoria eisoes yn bodoli ac yn ddiweddarach y daeth yr harbwr newydd hwn i gael ei alw'n Doc Fictoria.
Cyfeiriwyd fi, gan aelod o staff Archifdy Gwynedd, at lun ac adroddiad byr yn rhifyn Rhagfyr 26, 1868, o'r Illustrated London News a chyhoeddir yma gopi o argraff arlunydd o'r weithred o osod y garreg sylfaen, ynghyd 芒 chyfieithiad Cymraeg o'r adroddiad Saesneg:
'Gosodwyd carreg sylfaen yr harbwr newydd arfaethedig yng Nghaernarfon yn ddiweddar gan y Maer, Mr. Llewelyn Turner. Ar yr ochr ogleddol i'r dref y bydd yr harbwr newydd, ger gorsaf cwmni 'London and North western Railway'. Nid yw yn fwriad iddo gystadlu ci'r harbwr sydd yno'n barod, ond i ychwanegu ato fel man i angori rhagor o longau masnach. Ar yr un pryd bwriedir gwneud gwelliannau i'r harbwr presennol. Amcangyfrif y gost o'r harbwr newydd yw 拢24,000 a daw'r cyllid 0 goffrau y 'Public WOrks Loan Commissioners' sydd yn dod o dan y 'Passing Tolls Act'. Bydd cost y cynllun i gyd yn debygol o fod tua 拢50,000. Mr. Fredrick Jackson oedd yn gyfrifol am ddarparu'r cynlluniau a rhoed y gwaith adeiladu yng ngofal y contractwyr, Bugbird and Jones. Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau o fewn dwy flynedd.'
Peiriannydd Sifil oedd Thomas Bugbird, a ddaeth i ogledd Cymru gyntaf i weithio fel dirprwy i Robert Stephenson, y sawl oedd yn gyfrifol am adeiladu Pont Britannia, a agorwyd yn y flwyddyn 1850. Ymsefydlodd yn y cylch ac adeiladodd dy iddo'i hun yn Cae Cristo, Y Cilgwyn, ar y gornel a Ffordd Bethel.
Mewn rhifyn dyddiedig 31 Hydref 1868 o'r papur newydd lleol wythnosol, croesawyd y ffaith mai Mr. Bugbird a fyddai'n gyfrifol am y gwaith ar yr harbwr newydd, gan iddo yn gynharach ar y flwyddyn gwblhau cynllun cyflenwad dwr newydd a system garthffosiaeth ar gyfer y dref. Ef hefyd a gynlluniodd ac a arolygodd y gwaith o adeiladu'r ffowntan ar y Maes, a agorwyd yn swyddogol ar 25 Ebrill 1868, gan Dywysog a Thywysoges Cymru. Roedd y g诺r hwn yn uchel ei barch yng Nghaernarfon a bu'n Faer y dref o 1892-1893.
Tri rheswm a gynigir yn yr adroddiad dros yr angen am harbwr newydd. Roedd adeiladu wal gerrig Pier Fictoria wedi golygu culhau'r sianel gyferbyn a Chaernarfon ac roedd y porthladd yn prysur lenwi gyda mwd. Yn ail, byddai'r harbwr yn ychwanegu at y ddarpariaeth ar gyfer mwy o longau masnach i ddod i'r porthladd. Ac yn drydydd, byddai'r symiau sylweddol 0 arian a fyddai'n cael eu gwario ar yr harbwr ac ar ymestyn y rheilffordd trwy'r dref i gyfeiriad y gorllewin, o fudd i Gaernarfon. Nid yn unig i'r rhai a werthai ddarnau o dir ar gyfer y prosiectau, ond hefyd i weithwyr cyffredin a fyddai'n cael eu cyflogi ar gyfer y mentrau hyn a'r arian a fyddent yn ei ennill yn cael ei wario yn y dref.
Cymharer y gobeithion hyn oedd gan ein cyndadau a'r dadleuon am effaith y datblygiad presennol ar yr ochr ogleddol i Ddoc Fictoria. Rhai yn mynegi pryder y gwnaiff hyn ddrwg i fusnesion yng nghanol y dref am sawl rheswm. Yn gyntaf, ei fod yn rhy bell o'r dref ac na fydd raid i ymwelwyr a'r safle ddod ar gyfyl y ganolfan siopau arferol. Felly hefyd drigolion yr hanner cant o gartrefi a adeiladir ar y safle, gan y byddant o fewn rhai munudau o waith cerdded i archfarchnad. Dywedir hefyd y byddai dwy feddygfa ac un optegydd yn symud o ganol y dref i ardal y Doc eto'n golygu colled ariannol i fasnachwyr.
Ac, i goroni'r cyfan, caed rhai yn proffwydo mai pobl ddwad a fyddai'r unig rai i allu fforddio'r cartrefi moethus a chostus a wynebai olygfaon hardd Afon Menai ac Ynys M么n. Deellir, fodd bynnag, bod 13 o'r cartrefi hyn wedi eu gwerthu, gyda 10 ohonynt yn mynd i berchnogion tai yma'n barod a dim ond 3 i rai o'r tu allan i'r cylch.
Rhestrwyd uchod farn llu mawr o bobl leol, a phwy all ddweud nad oes sail i'w hofnau. Nid oes ond amser a ddengys, ond tybed nad oes yma le i ddysgu oddi wrth y gorffennol. Cyhuddwyd Caernarfon ar hyd y blynyddoedd o ddiffyg gweledigaeth ynghylch ei dyfodol. O leiaf, mae rhywbeth yn digwydd yma ar hyn o bryd. Prosiect gwerth ugain miliwn o bunnoedd yn Noc Fictoria; un arall ar gyfer adnewyddu'r Maes, gwerth tair miliwn, a phrosiect Lon Gas eto i ddod.
Gweledydd yr 19. Ganrif oedd Syr Llewelyn Turner, a bu raid iddo ef ymladd yn galed iawn i gael pobl i ledaenu eu gorwelion. Ef, yn ei gyfnod, a fu'n bennaf cyfrifol am bob gwelliant a ddaeth i ran y dref hon. Bu am flynyddoedd yn ceisio cael y Cyngor Tref i gytuno i wario ar Gynllun Cyflenwad Dwr Newydd a System Garthffosiaeth deilwng, ac mi lwyddodd yn y diwedd ar 么l i bron gant o'r trigolion farw o'r Colera yn 1866/67.
Roedd ef wedi sylweddoli'r peryglon flynyddoedd ynghynt. Ei weledigaeth ef hefyd oedd yr harbwr newydd ac atgyweirio'r castell a'i wneud yn atyniad ar gyfer twristiaid o bob rhan o'r byd.
Oes, mae lle i feirniadu cynlluniau newydd cyn iddynt gael eu rhoi ar waith, ond ni ddylai
neb sefyll yn ffordd gwelliannau. Cofier mai tref sy'n marw yw tref sy'n sefyll yn ei hunfan.
T. MEIRION HUGHES