成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Dre
Rhufeiniaid ifanc Segontium yn fyw
Mehefin 2008
Caer Segontium yn fyw gyda ymweliad gan griw o Gofis.
Yn ystod Wythnos Addysg Oedolion a gynhaliwyd ym mis Mai, daeth Segontium yn fyw unwaith eto wrth i 90 o ddisgyblion o Ysgol yr Hendre; 34 o famau, tadau, neiniau a theidiau; un bardd ac un cerddor ddod ynghyd.

Roedd yr hen gaer Rufeinig yn fwrlwm o fywyd, ac roedd yn bleser i fod yn rhan o'r profiad.

Wedi i ni fartsio fel milwyr, gwisgo fel milwyr a churo drymiau, dyma griw ohonom yn ail greu y sefyllfa yn y ganrif gyntaf OC pan oresgynnwyd y Derwyddon gan y Rhufeiniaid - y cwbwl yn cael ei gyfleu drwy symudiadau a sain.

Aeth rhai o'r plant a'r oedolion ati i lunio cerdd gan ddychmygu yr hyn a fyddai ar feddwl un o filwyr Rhufain wedi iddo gyrraedd pen draw'r byd yn Segontium - croniclwyd ei deimladau a'i feddyliau yn effeithiol, gan greu hanfon ar gerdyn post at ei annwyl gariad yn Rhufain.

Mwynhaodd criw arall o'r plant y cyfle i wisgo fel Celtiaid, y wisg yn syml a dirodres yn pwysleisio'r gwahaniaeth rhwng y brodorion a'r Rhufeiniaid .

Mae celfyddyd yn llwyddo i'n huno, a phrofwyd hynny wrth i Iwan Llwyd a Dylan Adams ein hannog i gymryd rhan, ac i fwynhau creu ac ail-greu gyda'n gilydd.

Pontio cenedlaethau a rhannu profiadau oedd bwriad y gweithgareddau, ac yn bwysicach oll, gosod sylfaen gadarn i'r Cofis ailfeddiannu'r gaer.

Ein caer ni ydi hi, pob un ohonom sydd wedi byw yn ei chysgod, ac sydd erbyn hyn yn ei pherchnogi.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy