O'r diwedd, ar 么l blynyddoedd o ofyn iddo fynd, o erfyn arno roi'r gorau iddi, o ddwyn pwysau arno i orffen, gweiddi, bygwth, brygowthan a blacmelio, o'r diwedd, mae o'n mynd i roi ei feiro goch ar yr helyg, ei gamra yn y to, a'i fowth organ yn ei ddesg, ac ymddeol.Diolch i Dduw!
Mae Ieu wedi bod yn rhan o addysg dre a cofis dre ers cyn co. Er nad ydy hi'n wir ei fod o yn yr ysgol efo Elen, gwraig Macsen Wledig (yn Hendra Domain oedd o'n byw yr adeg honno), mi oedd o gwmpas pan ddaeth Nedw'r Cyntaf yma, a fo ddeudodd wrth Hugh Owen (cyn iddo fod erioed yn Syr) lle i roi ei ysgol. Mae o wedi deud wrth sawl un arall wedi hynny lle i'w rhoi hi.
Yna mi adeiladwyd Ysgol Segontiwm (Higher Grade School for the sons of Gentlefolk) o gwmpas Ieu Parri, ac mi heliwyd plant dre ato fo a nhwtha'n sgrechian eu gwrthwynebiad. Erbyn hyn mae o wedi dysgu pump neu chwech cenhedlaeth o blant dre. Peth braf ar ddechrau Medi ydy gweld plentyn bach, newydd i'r ysgol, yn mynd i fyny at Ieu a deud wrtho fo, yn ei lais bach annwyl, gwichlyd: "Fuo hen nain dad yn actio yn sgets yma i chi," ac mor annwyl ydy gweld y ffordd dyner mae Ieu yn rhoi clustan i'r bychan a chic yn ei din.
Ia, dysgu Welsh a sgets Hendre Domain i Cofis fuo hanes Ieu ers cantoedd, er ei fod o hefyd wedi bod yn dysgu chydig o English, a lot fawr o Rybish, iddyn nhw hefyd dros y blynyddoedd. A ffwtbol, hefyd, er stalwyn. Pa ryfedd ei fod wedi gwirioni ar ffwtbol, ac ynta'n nain i Wali Tomos!
Mae'r ddwy flynedd ddwytha wedi bod yn dipyn o sgeg i'r hen Ieu. Mi chwalon nhw Segontium o gwmpas ei glustia fo - a fynta ar ganol gwers - a'i orfodi o i dd诺ad i Ysgol Top.
Dydy o ddim wedi bod run fath ers hynny. Mi gafodd o daith go egar yng nghefn lori rimwfals i fyny ma, ac mae hynny wedi deud arno fo'n ofnadwy. Am hanner awr wedi tri bob dydd mi gwelwch chi o yn sefyll wrth y bysus yn sb茂o'n hiraethus draw am lle'r oedd rysgol gwaelod, ac ambell i ddeigryn yn rhedeg i lawr ei wyneb. Cofiwch, ella mai glaw ydy o; mae Ieu yn giamstar ar sefyll yn glaw.
Yn ystod y dydd wedyn, rhyw gerdded o gwmpas bydd o, fel petai o heb setlo'n iawn yn top ma, ac yn cornelu pawb a phopeth gan fynnu adrodd straeon am y dyddiau da pan oedd pobol fel Meuryn, Puleston Jones a Wil Napoleon yn hogia ifanc yn ei ddosbarth Cynganeddu a Ffotograffiaeth o.
Unwaith mae o wedi'ch cornelu chi, mae'n anodd iawn cael yn rhydd o'i afael - mae o fel gelan, ofn gollwng. Ac mae'r ffaith ei fod o'n mynnu colli dagrau wrth s么n am y dyddiau da, ac yn s么n am gewri byd addysg oes a fu, pobol fel Brian a George, yn ddigon i dorri'ch calon chi.
Ydy, mae Ieu Parri'n mynd. Mi gaiff o r诺an ganolbwyntio ar ei brif ddiddordebau garddio adref yn Hendre Doman, a dangos blodau a llysiau mewn sioeau, dringo a reidio tandem yn y Cotswolds a chanu deuawdau efo fo'i hun.
Mi fydd na golled ar ei 么l o. Dydan ni ddim wedi penderfynu beth yn union fydd y golled honno eto, ond mi ydan ni am sefydlu pwyllgor i edrych i mewn i'r mater. Mi fydd y cenedlaethau yn s么n yn hiraethus amdano fo. Ella y byddan nhw wedi anghofio popeth ddeudodd o yn ei wersi Cymraeg, ella na fyddan nhw'n cofio dim o'r Saesneg, ond mi fydd y Rybish ddeudodd o wrthyn nhw yn fyw ar eu cof.
Ac mi fyddan ni i gyd yn ymuno yn y g芒n yr haf hwn, yn ddisgyblion, yn gynddisgyblion, yn athrawon, yn rhieni, yn deidiau, yn hen deidiau, ac yn hen-hen deidiau, mi fyddan ni i gyd yn un corws mawr yn deud dros dre:
"Diolch, Ieu, diolch am bopeth. Dos r诺an!"
Yn y llun: Pedwar o staff Syr Hugh fydd yn gadael yn yr haf - Teena Burton, sy'n mynd i Sbaen i ddysgu, Ieu Parri a Bethan Whittall, sy'n ymddeol, ac Owain Gethin Davies, sydd wedi'i benodi'n Bennaeth Cerdd yn Ysgol y Creuddyn. Diolch i'r pedwar am eu gwasanaeth i'r ysgol ac i'r dre.