Ond, yn ystod yr wythnosau diwethaf, tasech chi wedi mynd i Oriel Dafydd Hardy, mi allech chi fod wedi gwylio'r cymylau drwy'r dydd heb orfod poeni am ddim.
"Adra" oedd teitl arddangosfa Rowena Edwards ac roedd y lle'n llawn cymylau.
Ar un wal yn yr oriel roedd llun symudol o gymylau gwlanog ar gefndir gwyn gyda mainc o'i flaen i chi eistedd a gwylio'r cymylau'n mynd heibio.
Meddai Rowena "Mae mynyddoedd, wybrennau diddiwedd a moroedd agored Gogledd Cymru wastad wedi fy ysgogi.
"Hefyd, fues i yn Siapan chydig o flynyddoedd yn 么l ac roedd hynny'n symbyliad arall."
Ond, fel mae teitl yr arddangosfa'n awgrymu, tywydd a thirwedd "Adra" ydi'r pwysicaf iddi.
 |