成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Dre
Huw Gwynant Evans Huw yn Hedfan
Hydref 2007
Hanes Huw Gwynant Evans, peilot Ryanair, a fu o L么n Ddewi i Norwy, Dulyn, Berlin, Hambwrg, Pau a Girona yn ei wythnos waith gyntaf!
Mae Huw, cyn-ddisgybl yn y Gelli a Syr Hugh, newydd ddechrau ar ei swydd fel peilot gyda Ryanair, yr hyn oedd o eisiau ei wneud ers pan oedd yn ddim o beth.

Ond fe gychwynnodd y daith i wireddu ei freuddwyd o ddifrif ym maes awyr Caernarfon dair blynedd yn 么l pan gafodd ei drwydded hedfan gynta, ei PPL (Private Pilot's Licence). Hedfan awyrennau bychain fuo fo wedyn tra'n graddio mewn Eidaleg, Ffrangeg a Sbaeneg ym Mangor, cyn cychwyn ar y gwaith caled o geisio am drwydded hedfan fasnachol (y Commercial Pilot's Licence - CPL), sef yr awyrennau mawr!

Dwy flynedd gymerodd hi. Gorfod pasio 14 o arholiadau i ddechrau ac yna hedfan 150 awr mewn awyrennau bychain yn Shoreham ger Brighton. Cyfnod o werthfawrogi tirlun gwastad de Lloegr a phicio i ogledd Ffrainc a Jersey bob hyn a hyn!

Cyfnod yn Stapleford, Essex wedyn yn hyfforddi mewn ffug awyrennau mwy - 'simulators' - er mwyn cael ei drwydded fasnachol.

Ond doedd yr hyfforddi ddim ar ben o bell ffordd. Ar 么l bod yn hynod o ffodus i gael bachiad gan Ryanair, bu'n rhaid treulio chwe wythnos dwys yn yr Iseldiroedd wedyn yn dysgu hedfan y math o awyrennau sydd gan Ryanair, sef Boeing 737.

O ganlyniad mae Huw ar y funud yn hedfan awyrennau 737 o Stansted, yn y gobaith o gael gweithio yn barhaol o Lerpwl ryw dro.

Mae lle i hyd at 189 o bobl ar y 737. Ond pan fydd y peilot yn dod 'nol i Dre i weld ei deulu a'i ffrindiau chaiff o ddim gyrru car ei dad gan nad yw polisi yswiriant yr 'hen go' yn caniatau hynny! Rhyfedd o fyd.


[an error occurred while processing this directive] 0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy