Yn hytrach, ar d芒p y mae Buddug Jones yn cael ei chopi hi o Papur Dre, gan ei bod hi'n colli'i golwg ac yn cael trafferth darllen. "Dwi wrth fy modd hefo'r papur i gyd. Dwi'n mwynhau Ceri Clyms a Ffilbi yn arw iawn. Dwi'n gwrando wrth smwddio fel arfer!" meddai. Mae gan Buddug ffonau clust arbennig sydd yn gweithio hefo system radio, fel ei bod hi'n gallu crwydro i unrhywle yn y t欧 yn lle bod yn rhaid iddi aros wrth y peiriant chwarae tapiau. Mae ganddi hefyd beiriant chwarae CD sy'n gweithio ar fatri ac sy'n gallu cael ei gario i bob man. Yn ei thridegau yr oedd hi pan gychwynnodd gael trafferth gyda'i golwg. Erbyn hyn, mae hi'n disgwyl cael ci tywys i'w helpu i fod yn annibynnol. Pan ddaw'r ci, fe fydd angen iddi dreulio llawer o amser yn ei hyfforddi. Dim ond hi fydd yn cael rhoi bwyd i'r ci yn ystod y cyfnod hwnnw er mwyn creu perthynas arbennig rhwng y ddau. Mae gan Buddug sawl stori ddigri amdani ei hun, fel yr amser yr aeth hi a'i g诺r, Geraint, ar eu gwyliau. Yn y maes awyr roedd Geraint yn cario'r cesys a Buddug yn cerdded y tu 么l iddo. Yn anffodus, roedd Geraint yn cerdded yn gyflym ac aeth o olwg Buddug. Mi siaradodd hi hefo sawl dyn diarth cyn dod o hyd i'w g诺r! Stori arall yw honno am rhyw fore Llun cyn y Dolig: roedd Buddug am wneud ychydig o siopa yn Dre a phenderfynodd alw heibio siop Palas Print yn Stryd y Plas i brynu llyfr y cogydd, Gary Rhodes, yn bresant i'w chwaer. Wrth ofyn am y llyfr wrth y cownter, fe glywodd s诺n chwerthin y tu 么l iddi - pwy oedd yno yn arwyddo'i lyfr newydd ond y cogydd, Dudley Newbery a'i gwestiwn o i Buddug oedd, 'Oc锚, Lle mae'r Brodyr Bach?' Mae Buddug yn un dda am 'nabod lleisiau erbyn hyn ond mi fyddai hi'n licio petai pobl sy'n ei chyfarch yn dweud eu henw wrthi, er mwyn iddi eu 'nabod yn gynt. Mae Buddug yn ddiolchgar i'r criw o bobl sy'n dod at ei gilydd ar nos Fercher cyhoeddi Papur Dre i ddarllen erthyglau a'u recordio i bobl fel hi. "Heb eu gwaith nhw, fyswn i ddim yn cael mwynhau Papur Dre fel pawb arall." A'i hanogaeth i bobl eraill yn Dre? "Os oes gynnoch chi amser sb芒r a'ch bod chi'n mwynhau darllen, yna ymunwch efo'r t卯m o ddarllenwyr gan wybod bod pobl fel fi yn gwerthfawrogi'r gwaith."
|