Yn dilyn llwyddiant eu cais Loteri, bydd grant 拢50,000 o'r Gronfa Dreftadaeth yn galluogi Segontium Cyf i gomisiynu adroddiadau a fydd yn cynnig ffordd ymlaen i'r amgueddfa bwysig.
Sharon Owen, 30 oed o Dalysarn, sydd wedi'i phenodi i arwain y prosiect datblygu, a bydd yn canolbwyntio ei hymdrechion ar greu a meithrin cysylltiadau lleol a chenedlaethol. Enillodd Sharon Radd Hanes Cymru gydag Archaeoleg o Brifysgol Cymru, Bangor, yn y flwyddyn 2000. Treuliodd 2 flynedd yn gweithio ar Brosiect Hanes Llafar Merched y Wawr, ac yna hanner fel Swyddog Datblygu Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts.
"Fy ngobaith ydi datblygu cynllun a fydd yn caniatau i ni drawsnewid Amgueddfa Segontium i fod yn ganolfan brysur a dychmygus a fydd yn dehongli dyfodiad y Rhufeiniaid, eu cyfraniad i ddatblygiad Caernarfon a'u hymwneud a'r trigolion brodorol," meddai.
Yn ystod y misoedd nesaf, cewch flas ar fywyd yn Segontium yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid. Bu'r gaer yn ganolfan weinyddol am bedair canrif - a hynny ar eithaf mwyaf gorllewinol yr ymerodraeth Rufeinig. Petai'r olion Rhufeinig yn medru siarad...
|