Dosbarth perfformio uwchradd SBARC o Dre oedd yno yn recordio ffilm fer Gymraeg - gaiff ei gweld am y tro cynta yng Ng诺yl Pics yn Galeri fis Tachwedd nesa.
Ffrwyth 5 wythnos o waith paratoi a sgwennu oedd y tridiau ym Mhorthaethwy.
Yn ogystal a chael defnyddio'r set gan gwmni Rondo fe gafodd criw SBARC hefyd 糯r camera proffesiynol gan Cwmni Da ac adnoddau golygu.
Cwmni Hijacker Films sy'n goruchwylio'r prosiect ac fe gafwyd cymorth ariannol gan Asiantaeth Ffilm Cymru.
Roedd na gyfle i bawb actio gyda rhai yn arbenigo ar golur, gwisgoedd a chyfarwyddo.
Yn 么1 Rhian Cadwaladr a Tammi Gwyn, tiwtor ac is-diwtor y cwrs, roedd o'n brofiad gwerth chweil i'r pymtheg gymerodd ran.
"Roedd o'n gyfle arbennig i'r criw gael gweithio gydag offer technegol, gyda phobl broffesiynol a hynny ar set go iawn," meddai Rhian.
"Mae nhw'n cael y cyfle i ddysgu'r ddisgyblaeth o ffilmio a sylweddoli ei bod hi'n cymryd oriau lawer i greu dim ond 10 munud!"
|