成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Dre
Dic Parry Dyn bach, calon fawr
Mawrth 2005
Mae un dyn wedi bod wrthi yn hel pres i achosion da ers blynyddoedd ac yn adnabyddus iawn i bobl y dre - Dic Parry:
Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae llawer o bres wedi cael ei hel ar gyfer y bobl druan a ddioddefodd yn sg卯l y Tsunami ar ddydd G诺yl San Steffan. Yn 么l y s么n, mae mwy o godi arian wedi bod ar gyfer dioddefwyr y Tsunami nag ar gyfer unrhyw elusen arall.

Ond nid peth newydd ydi codi pres yn nhre Caernarfon!

Mae un dyn wedi bod wrthi am flynyddoedd yn codi pres ar gyfer pob math o elusennau. Fe gychwynnodd hel ym 1952 pan oedd yn y YMCA.

Roedd pawb yn 'nabod Dic yn y Dre bryd hynny a phawb (heblaw am ambell un!) yn barod i roi arian ar gyfer pa bynnag elusen yr oedd o'n hel ato. Roedd o hefyd wrth ei fodd yn ymweld 芒'r cleifion yn Ysbyty Eryri, Gallt y Sil ac Ysbyty'r Bwthyn bob Nadolig a phob Pasg.

Dic Parry yn Caffi MaesErbyn hyn, tydi Dic ddim mor brysur ond mae'n dal i ddod i lawr i'r Dre a hynny er mwyn cyfarfod ei ffrindiau am baned yng Nghaffi Maes.

Yno y bydd y criw bob dydd Mercher yn hel atgofion am yr hwyl gawson nhw pan ddaeth y 'French Moroccans' i aros yn y Dre am fis ac am yr holl adegau pan y bu Dic yn canu ac actio ac yn gwisgo i fyny fel Mae West a'r Frenhines Fictoria ar gyfer Carnifal Dre.

Ond pam wnaeth Dic Parry hel yr holl bres ma? A'r ateb yn syml?

'Diolch i'r Brenin mawr, mae hi'n dda arnaf fi ac mae 'na lot o bobl druan mewn lle gwaeth na fi.'

****

Dic Parry gan Bobby Haines
"Faint ohonom sydd wastad yn dweud nad oes cymeriadau o gwmpas r诺an fel yr oedd ers talwm. Wel, mi wn i am un cymeriad ac mae'r un yma yn adnabyddus, nid yn unig i ni, y Cofis, ond i'r ardal yn ogystal.

Mae'r enw Dic yn enw eitha cyffredin ac i mi, mae'r enw yn dwyn i gof dri chymeriad o Dre, sef Dic Coed Marion, Dic Trefor ac wedyn neb llai na Dic Parry.

Mae Dic wedi cyrraedd oedran go dda erbyn hyn a tydi o ddim gwmpas y Dre cymaint y dyddiau hyn. Gwelwyd Dic bob wythnos bron yn casglu arian at achosion da, achosion elusennol fel y pabi coch, yr NSPCC, y Bad Achub a sawl elusen arall.

Pan ddangoswyd canlyniadau'r casgliadau yn y Wasg, Dic oedd wedi hel y swm mwya dro ar 么l tro. Mae'r drefn o gasglu arian i'r elusennau wedi newid cryn dipyn erbyn hyn ac ychydig iawn a welir yn awr yn casglu ar y strydoedd hefo bocsys casglu. Ydi'r ysbryd o ewyllys da a ddangoswyd gan Dic dros flynyddoedd lawer wedi diflannu o'n cymdeithas?

Dic wedi gwisgo i fynyRoeddwn yn byw 'chydig lathenni o d欧 Dic ym Maes Barcer, a sawl gwaith y clywsom ganddo'r g芒n 'We the Royal Welsh Fusiliers' neu 'You are my sunshine'.

Yn wir roedd ei repertoire yn eang! Eglwyswr ydi Dic ond yn ystod y Rhyfel, roedd yn mynychu capel bach Glan y M么r, capel poblogaidd iawn. Be roedd llawer iawn o weithgareddau fel eisteddfodau, cyngherddau a'r 'band of hope'. Roedd Dic yn cymryd rhan ym mhob un ohonyn nhw.

Nid yw'n teithio i lawr i ganol y Dre cymaint erbyn hyn oherwydd nad yw'r iechyd cystal ond mae ugeinia' yn gofyn 'Sut mae Dic?'

Da ydi gallu dweud ei fod o 'yma o hyd'!"


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy