成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Dre
Capel Moreia Cofio T芒n Moreia
Ebrill 2006
Mae bron i 30 mlynedd wedi mynd heibio ers i gapel Moreia, y credir ei fod yn un o gapeli mwyaf Gogledd Cymru, losgi yn ulw mewn t芒n.

Safai Moreia yn urddasol ym Mhenrallt Isaf, lle mae swyddfeydd Ffilmiau'r Nant heddiw.

Ond yn oriau man y bore ar Orffennaf 9fed 1976 cynheuodd y fflamau a llosgi capel y Methodistiaid Calfinaidd i'r llawr.

Mae Holland Roberts a'i nai John Watkins, sy'n byw ym Mhenrallt Isaf, yn cofio'r digwyddiad. Mae Holland Roberts yn cofio sylwi fod rhywbeth o'i le gyda'r nos ar Orffennaf 8fed.

"Dwi'n cofio'r wraig yn mynd i'r drws ffrynt, roedd rhywun wedi dod yma i drin y teledu, ac mi ddywedodd o fod yna oglau mwg o gwmpas, ac fe edrychon ni ar y t欧 ond doedden ni ddim yn gweld dim o'i le," meddai.

"Y noson honno y cyneuodd y t芒n, mi fu'n llosgi am oriau ac aeth y lle'n wenfflam."

Er mai dim ond chwech oed oedd John Watkins adeg y t芒n mae'n cofio'r digwyddiad yn glir.

"Mae'n un o'r pethau cynharaf dwi'n ei gofio," meddai. "Roeddwn i'n chwech oed ac yn cael te parti ar ddiwrnod y tan ... y noson honno dwi'n cofio cael fy neffro ac roedden nhw'n symud pawb o'r stryd.

"Roedd fy nhad wedi cael ei ddeffro, roedd s诺n lleisiau ac injan d芒n y tu allan, mi aeth i weld beth oedd yn digwydd ac mi welodd y t芒n.

"Ar 么l cael fy neffro mi es i'r ffenest gefn a dwi'n cofio gweld fflamau ar si芒p croes gan fod ffr芒m ffenest y capel ar d芒n."

Yn ogystal 芒 diffoddwyr tan y dre daeth rhai yma o Fangor, Llanfairfechan, Pwllheli a Llanberis.

Wrth i'r capel losgi roedd pryder am y tai cyfagos a symudwyd trigolion y stryd o'u cartrefi rhag ofn y byddai'r fflamau'n lledaenu.

"Roedden ni'n cael bod o gwmpas y stryd, yn cael dod i mewn ac allan o'n tai ond nid cysgu yno... dwi'n eu cofio nhw'n dal peipen o dd诺r yn erbyn talcen y t欧^ pen," meddai John Watkins.

Mae'r ddau hefyd yn cofio i ddiffoddwr t芒n gael ei anafu wrth geisio diffodd y fflamau.

"Mi frifodd un dyn t芒n o Fangor, roedd plwm o'r to wedi disgyn, mi ddisgynnodd i'w wisg a disgynnodd y dyn oddi ar yr ysgol. Dwi'n cofio mynd i'w weld i'r ysbyty," meddai John Watkins.

Pan wawriodd y bore wedyn roedd y difrod i'w weld yn glir a dim ond cragen llawn mwg a lludw oedd i'w weld.

Collwyd yr organ arbennig er mawr ofid i organydd y capel, Peleg Williams, ond llwyddwyd i achub y t欧^ capel a'r festri.

"Roedd yn sioc fawr i weld y llanast," meddai Holland Roberts. "Roedd yna fwlch mawr yma wedi'r t芒n, roedd yn adeilad mor fawr."

"Ar 么l bod ar ei draed drwy'r nos mae John Watkins yn cofio cael mynd i'w wely yn y bore.

"Ond doeddwn i ddim yn gallu cysgu... roeddwn i dal i deimlo'r ofn," meddai.

"Dwi'n dal i feddwl am y t芒n, mae'r amser wedi mynd mor sydyn ond mae'r atgofion mor fyw 芒 phetai wedi digwydd yr wythnos ddiwethaf'.

"Mae llawer o s么n am y t芒n o hyd a phawb yn cysylltu'n stryd ni 芒'r capel."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy