成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Dre
Rhai o aelodau'r clwb gweu Clwb Gweu
Mai 2010
Mae'r byrddau yn llawn o wl芒n lliwgar, y gweill yn clecian a chriw hapus yn sgwrsio'n braf.

Ydi mae'n bnawn Llun yn stafell gymuned y Llyfrgell lle mae'r Clwb Gweu yn cyfarfod.

Y mhen tipyn mae'r teciall yn berwi a phanad yn barod a chyfle i glywed tipyn o'r hanes.

DECHRAU'R CLWB

Ffurfiwyd y clwb dros 15 mlynedd yn 么l gan rai aelodau o Sefydliad y Merched Pontrug.

Y pwrpas oedd cymdeithasu a gwneud gwaith llaw o bob math yng nghwmni ei gilydd.

Mae Mrs Eirwen Parry, Mrs Betty Hughes a Mrs Mair Evans yn aelodau ers y dechrau.

Yn raddol dechreusant wneud plancedi i'r henoed ac erbyn hyn mae holl waith y Clwb Gweu yn cael ei roi at achosion da.

Y CYNNYRCH

Plancedi babis: Bydd Ysbyty Gwynedd yn eu derbyn ar gyfer babanod anwyd yn gynamserol.

Plancedi Cluniau: Mae rhain yn mynd i gartrefi henoed yr ardal.

Dillad Amrywiol: Ar gyfer mudiad yr "Inner Wheel" i fynd i blant y gwledydd tlawd.

Siwmperi Cynnes: Anfonwyd nhw i Rwmania, yn bennaf ar gyfer teuluoedd sipsiwn y Romani sy'n cael eu trin fel trigolion eilradd.

CARDIAU CYFARCH a CHYWION BACH

Dwy o'r merched sy'n gweithio'n ddiflino yn gwneud cardiau o bob math ydi Mair Evans Ffordd Bethel ac Alice Evans Cae Berllan.

Gwerthir rhain am 拢1 neu ddwy at wahanol elusennau. Cyn y Pasg bu'r ddwy yn ogystal ag Eurfron Jones, Lon Ysgubor Wen ac Owena Malavasi Bontnewydd yn brysur iawn yn gweu cywion bach melyn, rhoi wy Pasg ym mhob un a'u gwerthu i ffrindiau. Maen nhw hefyd yn gwneud teganau meddal amrywiol.

Eleni mi fyddant yn cyflwyno siec am 拢500 i Calon Lan yn Ysbyty Gwynedd.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rhoddwyd dros 拢3,500 o arian i T欧 Gobaith, Hosbis yn y Cartref, Ambiwlans Awyr, Ward Alaw a Chronfa Joshua.

AELODAU NEWYDD

Yn ddiweddar ymunodd Olwen Williams ac Eluned Mathias a'r Clwb Gweu.

Mae Gill Williams a Gill Birk yn dysgu Cymraeg yn naturiol wrth wrando ar y sgwrsio ac yn mwynhau pob munud.

Os oes rhywun arall efo diddordeb trowch i mewn ar bnawn Llun.

CLIRIO'R CYPYRDDAU

Nid yn unig mae'r merched yn rhoi eu llafar yn rhad ac am ddim ond maen nhw'n prynu'r 'ddafadd hefyd.

Mae'n amser spring-clinio eto ac o bosibl fod gan rai o ddarllenwyr PAPUR DRE ambell bellen o wl芒n mewn cwpwrdd ers blynyddoedd.

Os ydi o'n "double knitting" beth am ei roi i'r Clwb Gweu ac mi fyddwch chithau, yn cyfrannu at achosion da heb son at lle i gadw pethau eraill yn y cwpwrdd!

Magi Wyn Roberts


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy