Y wobr oedd cael ymuno efo criw y Gypsy Moth i hwylio ar ei hugeinfed ran o'r daith o Bali i Singapor.
Cafodd Bryn Granville, Iwan Elis a Rhodri Owen (a Mr Gareth Cowell, pennaeth y chweched, i gadw trefn arnyn nhw!) ymweld 芒 llefydd gwahanol iawn yn ystod y fordaith fel Madura, Bintan a Batam.
Dyma beth oedd gan yr hogia i'w ddweud am eu trip. Iwan: Ar fy siwrnai i'r dwyrain pell, cefais flas ar fyw bywyd syml ar fwrdd un o'r cychod enwocaf, y Gypsy Moth. Roedd profiadau fel glanhau gwaelod y cwch a'i lywio ben bora wrth iddi wawrio yn brofiad bythgofiadwy. Cefais gyfle i neud nifer o ffrindiau newydd yn Singap么r, a dwi'n cadw mewn cysylltiad efo nhw ers hynny. Gobeithio y ca' i brofiad fel hyn eto yn y dyfodol.
Rhodri: Roedd o'n brofiad anhygoel cael byw bywyd fel y bobl leol. Ar un o'r ynysoedd bychain, fe gawson ni gyfle i ddysgu dau ddosbarth. Roedden ni'n synnu o weld pa mor dda roedd rhai o'r plant yn gallu siarad Saesneg. Roedd y fordaith hon yn brofiad bythgofiadwy i ni i gyd.
Bryn: Cefais gyfle i roi cynnig ar nifer o chwaraeon d诺r e.e. Wakeboardio, Hwylio, Scwbadeifio a Snorclo. Roedden ni hefyd yn gorfod bwyta bwydydd tipyn gwahanol i adra. Roedd o'n brofiad gwerth chweil. Lisa Hughes
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |