成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Dre
R&I Jones Warws pethau da
Ebrill 2009
Ydach chi rioed wedi meddwl be ydi'r adeilad mawr na syth yn Cei Banc, tu 么l i Wetherspoons?

Hen fanc oedd o, a dyna'r enw hyd heddiw "Hen Adeiladautr Banc", ond cwmni o'r enw R&I Jones syth yno.

Cwmni ydi hwn sy'n gwerthu melysion, diodydd meddal, sigar茅ts, slysh, crisps, glo, coed tan. a thaclau 'molchi ac yn y blaen a hynny i siopau a thafarndai, i ysgolion ac i ganolfannau hamdden.

Dechreuwyd y cwmni yn 1923 gan Richard ac Ifor Jones a'u canolfan gyntaf oedd lle bu siop C.C. Williams wedyn, dan Glwb y Tor茂aid.

Ifor oedd yn y warws a Richard yn drafeiliwr yn hel busnes.

Bu Nefydd Roberts hefyd yn y busnes cyn gadael i agor siop a busnes cyffelyb lle ma NaNog r诺an.

Car newydd 'ta het newydd?

Yn 1960, a'r cwmni wedi symud i'w safle presennol fe'i prynwyd gan Edward Jones o Landrillo, a'i nai Glyn Humphreys.

Roedd Edward Jones yn teithio bob dydd o Landrillo i Gaernarfon erbyn 8 y bore, ac yntau yn ei 80au.

Mae 'na stori am Edward Jones yn newid ei hen gar Rover am un newydd, mwy modern, ac yn mynd i'r garej ymhen wythnos yn anhapus.

Fe archwiliodd g诺r y garej y car a dweud wrth Edward Jones, 'Does dim o'i le arno fo. Pam 'dach chi am newid y car?..

Yr ateb oedd, 'Dw i'n taro fy het ar ffr芒m y drws wrth fynd i mewn i'r car - mae'r to'n is na tho'r hen gar.

'Wel be am dynnu eich het cyn mynd i'r car?' awgrymodd y gwerthwr.

'Ddim ar unrhyw gyfrif' oedd ateb Edward Jones, 'haws newid y car', a dyna fu.

Yn 1978 daeth Meirion Roberts yn bartner a phan fu Glyn Humphreys ymddeol fe ddaeth o'n berchennog ar y cwmni ac mae o dal yn eiddo i'r teulu hyd heddiw.

Y tad a'r mab

Er bod 'na newid wedi bod ym mherchnogaeth y cwmni dros y blynyddoedd mae nifer o'r staff wedi bod yn sefydlog dros ben, gyda 4 ohonynt yno ers dros 30 mlynedd ac un, Edgar Owen, yno ers 44 mlynedd.

Pan ddechreuodd Edgar weithio yno roedd 'na Edgar arall yn gweithio i'r cwmni ac felly fe gaffodd ei alw'n Fred, a dyna'i enw gwaith hyd heddiw.

Un o'r ddau drafeiliwr ydi Egar, y llall ydi Dewi, ei fab, ddechreuodd ar y gwaith flwyddyn yn 么l.

"Junior" medde Edgar, "Y gora" medda Dewi!.

Mae'r trafeilwyr yn teithio tua 30 mil o filltiroedd y flwyddyn gan ymweld 芒 sefydliadau o Fachynlleth a Thywyn i Ruthun a Dinbych ac yn gwerthu slysh cyn belled 芒 Chaer hyd yn oed.

Ugain sy'n gweithio i'r cwmni ar hyn bryd, gyda rhai yn y swyddfa, rhai yn warws a phedwar dreifar, sy'n delifro bob wythnos os oes angen.

Ond dydy 1 swydd ddim yn ddigon i Edgar gan ei fod o a'i wraig, Carys, yn cadw siop bapurau Y Castell.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy