成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Dre
Un o luniau Meirion Mei Dei
Mai 2008
Os ewch chi i weld arddangosfa Mei Dei, yn Oriel Dafydd Hardy, y peth cyntaf neith eich taro chi ydi'r lliwiau. Mae'r lle yn llawn dop o liwiau llachar.
Mae'r stafell yn cael ei goleuo gan liwiau cryf y peintiadau.

Portreadau sy' 'ma yn bennaf. Peintiadau o ferched noeth, peintiadau o rai o ffrindiau'r artist a hunan-bortreadau.

Peintiadau sy'n gneud i chi feddwl fod 'na stori y tu 么l i bob lllun, bron. Mae rhai o'r peintiadau yn bryfoclyd, rhai yn ddoniol, ond mae'r cwbwl yn gwneud i chi sefyll yn 么l ac edmygu crefft artist ifanc talentog ac addawol.

Yn Bethel y magwyd Meirion Alan Ginsberg, ac ar 么l cyfnod yn astudio celf ym Mangor a Chaerdydd, mae o bellach yn 么l yn yr ardal yma, yn ceisio dilyn gyrfa fel artist. Mae o'n ceisio cadw'n glir oddi wrth bynciau 'traddodiadol' fel tirluniau, ac mae'n defnyddio llawer ar ei deulu a'i ffrindiau fel ysbrydoliaeth i'w waith.

Cafodd ei fagu mewn teulu o beintwyr a cherddorion, a chafodd y gymysgedd yma o wahanol gyfryngau ddylanwad arno. Mae hiwmor yn elfen bwysig iawn yn ei waith hefyd, hynny efallai oherwydd fod comics a chart诺ns wedi dylanwadu llawer arno pan oedd yn ifanc.

Mae gan Mei ei wefan ei hun, www.maginsberg.co.uk - ac mae'n werth edrych ar honno cyn mynd draw i'r arddangosfa. Mi gewch chi weld mwy o'i waith yn fan'no, yn ogystal a chael cyfle i ddarllen mwy am hanes yr artist a'r hyn mae o'n geisio ei wneud.

Ond fel mae Mei ei hun yn deud, dim ond cyflwyniad ydi'r Wefan. Mae'n rhaid i chi weld y gwaith 'yn y cnawd' i chi ei werthfawrogi yn iawn.

Ewch i weld arddangosfa Mei Dei. Cefnogwch artist ifanc lleol sy'n cael cyfle i ddangos ei waith yn yr ardal. Cefnogwch Oriel sy'n gwneud ei gorau i hybu gwaith artistiaid ifanc lleol. Cerwch i weld llond stafell o beintiadau byw, ac arddangosfa wirioneddol dda.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy