成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Dre
Castell Caernarfon a'r cerflun Cerflun Llywelyn
Rhagfyr 2007
Yn ddiweddar cafodd PAPUR DRE air gan Mr Bobby Haines, 29 Stryd y Farchnad, yngl欧n 芒 dadorchuddio'r cerflun uchod ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 11 1982.
Roedd yn awyddus i'n hatgoffa ei bod yn union 25 mlynedd ers hynny ac am inni hysbysu'n darllenwyr o'r digwyddiad hanesyddol hwnnw.

Roedd y dadorchuddio wedi ei drefnu ar gyfer 700 mlynedd i'r diwrnod y lladdwyd yr olaf o'r tywysogion Cymreig, Llywelyn ap Gruffydd yng Nghilmeri, trwy i un o'i gefnogwyr ei fradychu, gan roi gwybodaeth i'r gelyn ymhle yn union yr oedd Llywelyn a mintai fechan o'i fyddin. Roedd milwyr y Brenin yn aros amdanynt ac, ar 么l ymosodiad ffyrnig, lladdwyd Llywelyn ac aed 芒'i ben i Lundain a'i arddangos ar bolyn ar un o byrth y ddinas.

Y Cynghorydd Bobby Haines oedd Maer Caernarfon yn 1982, ac o'r herwydd roedd yn bresennol yn y dathliadau y diwrnod hwnnw. Fodd bynnag, y sawl a oedd i ddadorchuddio'r cerflun ar y Sadwrn, 11 Rhagfyr, oedd y diweddar Gynghorydd W. R. P. George, Cadeirydd Cyngor Sir Gwynedd, ond fe dderbyniodd ef lythyr bygythiol oddi wrth un yn honni ei fod yn aelod o Fataliwn Ardoyne o'r Fyddin Weriniaethol Wyddelig.

Hynny o bosib oherwydd ei gysylltiad teuluol 芒'r enwog gyn Brifweinidog, David Lloyd George, a fu'n gyfrifol am y cytundeb hwnnw yn 1921 i rannu Iwerddon yn ddwy ran, a'r rhan ogleddol i ddal i ddod o dan awdurdod Y Deyrnas Unedig, gan mai dyna oedd dymuniad y mwyafrif o'r trigolion yno. Rhag i eraill gael eu rhoi mewn perygl yn bennaf, ac wedi cynnal cyfarfod brys o'r Cyngor a chael barn yr Heddlu, penderfynodd W. R. P. George gadw draw o'r gweithgareddau a gofynnwyd i Is-Gadeirydd y Cyngor, Y Cynghorydd a'r Parchedig, Richard Jones, Ficer y Felinheli ar y pryd, i gario allan ei ddyletswyddau.

Ar y diwrnod, er fod llawer o bobl yn bur ofnus o gofio'r bygythiad a dderbyniodd Y Cynghorydd W. R. P. George, ni chafwyd arlliw o unrhyw drais yn ystod y gweithgareddau. Fodd bynnag, roedd llu mawr o aelodau'r Heddlu yn cadw llygad barcud ar bob rhan o'r dathliad, ond yn gwneud hynny yn y cefndir a heb ymddangos yn amlwg.

Am ddau o'r gloch y pnawn trefnwyd cyfarfod yn Theatr Seilo, Caernarfon, gydag Is-Gadeirydd Gyngor Gwynedd, Y Cynghorydd Richard Jones, yn cadeirio yn absenoldeb Cadeirydd Y Cyngor, Y Cynghorydd W. R. P. George. Dau hanesydd a ddewiswyd i annerch, sef Yr Athro J. Gwynn Williams, Coleg y Brifysgol Bangor, a'r Athro Emeritus Glanmor Williams, Coleg y Brifysgol, Abertawe. Ar y rhaglen hefyd oedd eitemau cerddorol gan Barti Cymerau, Pwllheli, o dan arweiniad Nan Elis a'r delynores oedd Gwennant Roberts.

Os mai heddychlon a fu'r dathliadau o safbwynt y bygythiad, nid aeth y diwrnod heibio'n ddidramgwydd. Yn gyntaf, fe ofynnwyd i'r cerflunydd ddweud gair am ei greadigaeth, a chan mai Sais oedd fe siaradodd yn Saesneg, a phan alwyd wedyn ar Yr Athro J. Gwynn Williams i annerch, siaradodd yntau yn Saesneg. Roedd hyn yn ormod i'w oddef gan rai a phenderfynodd Arweinyddes Parti Cymerau gerdded allan o'r theatr a dilynwyd hi gan y gweddill o'r parti. Cawsant gyfarfod byr i drafod y mater yn y cyntedd cyn troi am adref.

Cafodd yr Arweinyddes ei holi gan y Wasg yn ddiweddarach a rhoes ei rhesymau dros adael y cyfarfod. Yn gyntaf roedd yn ddig na chychwynnwyd ar amser a'i fod hanner awr yn hwyr ac ni welodd neb yn dda i hysbysu'r gynulleidfa o'r rheswm am hynny. Yn ail ni theimlai bod angen i'r cerflunydd fod wedi siarad o gwbl gan nad oedd i lawr ar y rhaglen iddo wneud hynny ac yn olaf sarhad o'r mwyaf oedd gofyn wedyn i'r Athro J. Gwynn Williams, yntau i siarad yn Saesneg.

Deallwyd hefyd mai y rheswm am yr oedi oedd bod y gwesteion wedi eu gwahodd i ginio yng Ngwesty'r Royal ag i hynny redeg yn hwyr.

Gwahoddwyd y Cynghorydd Richard Jones i ateb yr hyn oedd gan yr Arweinyddes i'w ddweud am Yr Athro J. Gwynn Williams yn traddodi ei araith yn Saesneg a dywedodd mai y Cynghorydd W R. P. George a ofynnodd iddo wneud hynny.

Fodd bynnag, i ddychwelyd at y dathliadau ar yr 11 o Ragfyr, 1982. Ar ddiwedd y cyfarfod yn Theatr Seilo cychwynnwyd ar orymdaith gyda Seindorf Arian Llanrug yn arwain ar hyd Stryd Fangor, y Bom Bridd, ac o amgylch y Maes at Stryd y Castell. Ymysg y rhai a orymdeithiodd oedd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Beata Brookes, a dau Aelod Seneddol, Keith Best, Ynys M么n a Dafydd Elis Thomas, Meirionnydd. Yn cynrychioli ei gwr yr oedd Mrs. Elinor Wigley, gan ei fod ef i lawr yng Nghilmeri y diwrnod hwnnw mewn gwasanaeth a drefnwyd yn genedlaethol i Gofio Llywelyn, 700 mlynedd i'r diwrnod y'i lladdwyd yno.

Traddododd Y Cynghorydd Richard Jones araith fer i'r achlysur cyn dadorchuddio'r cerflun o Eryr Eryrod Eryri, a osodwyd ar ongl i wynebu ac i herio'r ddelwedd o Iorwerth 11 uwchben Prif Fynedfa'r Castell, Porth y Brenin.

T. MEIRION HUGHES


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy