成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Dre
Hanes wyres Abram Wood Hanes wyres Abram Wood
Chwefror 2007
'Teulu Abram Wood'. Sawl un ohonom sydd heb glywed y geiriau hyn rhywdro yn ystod ein bywydau, tybed?

Fe'u defnyddir gan amlaf i s么n am deulu mawr, a'r rheswm syml am hynny yw bod gan yr Abraham neu Abram Wood hwnnw lawer o blant ag wyrion a gor-wyrion ayyb.

Sipsiwn oeddynt a llawer yn credu mai o'r Aifft y tarddent, gan eu cysylltu 芒'r enwau Saesneg 'Egyptian' a 'Gypsy'.

Ond, nid felly yn 么l rhai haneswyr mwy diweddar, fodd bynnag.

Mae nhw'n honni mai o'r India y daethant a bod eu hiaith, Romani, yn ymdebygu i ieithoedd a siaredir ar y cyfandir hwnnw a bod tylwythau crwydrol lawer wedi sefydlu mewn mannau ar hyd a lled Ewrop.

Mae'n fwy na thebyg mai o Loegr y daeth un tylwyth i Gymru gyntaf, rhywbryd tua 1730, ac mai enw'r pennaeth neu 'frenin' oedd Abraham Wood.

Ond eto, yn 么l yr un ffynhonnell, fe ddywedir iddo ef ac aelod arall o'r teulu, John, hanner brawd iddo, gad eu dienyddio yng (Nghaerloyw ar Awst 27 1737, am ladrata (oddi ar un H. Lovell, sipsi arall, ar y ffordd ) fawr.

Roedd y ddau yn gwadu nad oedd hyn yn wir ac yn mynnu mai ceisio cael ad-daliad o fenthyciad a roes Abraham iddo oeddynt.

Gair olaf Abraham cyn wynebu'r groesbren oedd: 'Lord have Mercy upon my soul! I am innocent of what I die for; and it is wilful Murder I declare.'

Y fam gyffredinol erbyn hyn yw mai Abraham arall, William Abraham Wood, a gladdwyd ym mynwent Llangelynnin, Meirionnydd, ar y 12fed o Dachwedd 1799, oedd yr un a sefydlodd y tylwyth.

Yn 么l traddodiad roedd ganddo bedwar o blant, tri mab ac un ferch. Galwyd y mab hynaf yn Valentine, ond cofnodir iddo gael ei gladdu yn Llanfihangel y Traethau dan yr enw John Abraham Woods ar Ebrill 14, 1818, c.76 oed.

Priododd Valentine a Jane Boswell a chawsant 5 o blant, sef Adam, Alabaina, Thomas, Jeremiah ac Ellen.

Rhoddir sylw yn neilltuol i'w merch, Alabaina, ar gyfer yr ysgrif hon. Alabeina Wood, merch hynaf Valentine a Jane ac wyres Abram Wood, sefydlydd y Tylwyth Sipsiwn Cymreig, fel y'i gelwir.

Yn 么l y s么n merch fechan iawn ydoedd ac fel Alabeina Bwt yr adnabwyd hi. Er hynny roedd yn ferch brydferth dros ben, gwallt du yn tueddu i gyrlio a chroen eurliw ganddi, corff gosgeiddig ac yn syth fel brwynen.

Gwisgai glustlysau a dillad lliwgar ac roedd yn hoff iawn o ddawnsio i gyfeiliant y ffidl neu'r delyn.

Roedd Alabeina ar grwydr yn Mhen Llyn gyda'r tylwyth yn ystod 1799, y flwyddyn y bu farw ei thaid, Abram, a chawsant ganiatad i wersylla ar dir fferm fawr yn Llanengan.

Treuliasant y nos yn dawnsio a syrthiodd y mab, William Jones g诺r tal a glandeg, mewn cariad 芒 Alabeina.

Roedd ef eisoes yn briod, ond canlyniad fu i'r ddau ohonynt adael yng nghwmni ei gilydd ar farch yn perthyn i'r fferm.

Ar 么l cyfnod fe dderbyniwyd Alabeina yn 么l gan y tylwyth a maddeuwyd iddi ac i William Jones hefyd am eu hymddygiad.

Ganed pump o blant i'r p芒r sef Richard, Elizabeth, Sarah, Edward a Nutty, ond bu farw Nutty yn blentyn pedair oed.

Rhoed yr enw 'Wil y c诺n' ar William gan fod amryw ohonynt ganddo a byddent yn ei ddilyn i bobman. Roedd yn hoff o lymeitian a bu'n anffyddlon i'w wraig sawl tro.

Ar adegau fe'i gadawai am fisoedd, ond dychwelyd y byddai yn ddi-ffael. Roedd eu merch Sarah yn briod ag Edward Foulkes ac yn byw yng Nghaernarfon, a daeth Alabeina, hithau, i'r dre i fyw yn ystod ail chwarter y 19 ganrif.

Dywedir iddi fod yn uchel iawn ei pharch yng ngolwg pobl y dref, yn foesgar ac yn foneddigaidd bob amser.

Yn wir, yn 么l pob tystiolaeth ac oni bai am ei gwisg a'i chlustdlysau, ni fuasai unrhyw un yn meddwl mai sipsi ydoedd. Roedd yn gallu siarad y ddwy iaith, Cymraeg a Saesneg, yn rhugl a chyda choethder ymadrodd na fyddai unrhyw un yn ei gysylltu a'i magwraeth.

Bu Alabeina farw yn 70 oed a chladdwyd hi ym mynwent Llanbeblig ar Awst 23 1848, gyda'r ficer, Y Parch. Thomas Thomas, yn gwasanaethu ac ar y cofnod ar lyfr claddedigaethau'r plwyf ei chyfeiriad olaf oedd Tanrallt, Caernarfon.

Rhyfedd meddwl mai'r enw Saesneg ar yr allt honno oedd 'Gypsy Hill', ond er y cyd-卢ddigwyddiad, nid oes lle i gredu mai ar 么l yr hen Alabeina y cafodd yr enw hwnnw.

Nid oedd William Jones yn byw gyda'i wraig pan fu hi farw a dywedir iddo briodi am y trydydd tro yn fuan ar 么l marwolaeth Alabeina.

Ond, cyn hir, clafychodd yntau ac ar ei wely angau ei ddymuniad oedd iddo gael ei gladdu mewn bedd ochr yn ochr ag un ei ail wraig.

Mynnai mai y ferch a gyfarfu yn Llanengan hanner canrif ynghynt oedd ei unig wir gariad ac yn 么l ei addefiad ei hun, 'Roeddwn i'n ei charu yn fwy na Iesu Grist.'

T. Meirion Hughes


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy