Syniad gwallgo - ond erbyn hyn mae pedwar o hogiau o'r dre wedi cwbwlhau'r dith mewn Astra bach coch 15 oed. Andrew Williams, Gavin Jones, a'r ddau frawd Rhys a Hywel Iorwerth oedd yn y car an gychwynnon nhw o Gaerdydd.
Elusen G么l drefnodd y cyfan - elusen cefnogwyr t卯m pel-droed Cymru sy'n codi arian at achosion da dramor - cartrefi plant amddifad yn bennaf.
Y cynllun oedd gyrru mewn confoi o hen geir o Gaerdydd drwy Ewrop ac Asia i gyrraedd Baku erbyn y g锚m rhwng Azerbaijan a Chymru.
Roedden nhw wedi codi miloedd cyn cychwyn a'r bwriad hefyd oedd gadael y ceir ym mhen y daith i ychwanegu at y gronfa.
Mi eithion nhw drwy Loegr, croesi i Ffrainc, i lawr drwy wlad Belg a'r Almaen, wedyn i Awstria, Slofacia, Hwngari, Romnia, Bwlgaria, Twrci ac i mewn i Georgia.
Roedd rhaid iddyn nhw adael y car yn Kutaisi yn Georgia. Dydy Azerbaijan dim yn fodlon derbyn ceir hefo llyw ar yr ochr dde.
Er bod criw'r confoi a gychwynnodd o Gaerdydd i gyd wedi landio yn Baku rywsut, wnaeth pob un o'r ceir ddim llwyddo i gyrraedd pen y daith - un wedi nogio cyn cyrraedd Dover!
Ond roedd yr Astra bach coch a hogia Caernarfon yn benderfynol o'i gwneud hi.
Sut daith oedd hi felly?
"Doedd hi ddim yn rhy ddrwg nes inni gyrraedd Hwngari - traffordd yr holl fordd, ond wedyn fe ddechreuodd y lonydd waethygu - a'r gyrwyr!
Mae gyrwyr loris Romania a Twrci'n meddwl mai dim ond nhw sy ar y ffordd! "Roedd isio dau b芒r o lyaid o hyd," meddai Rhys. "Yn Romania fel basion ni dafarn o'r enw Alex (wir yr!) a hefyd fe basion gwmni bysus lleol o'r enw Jones".
Cafodd y criw groeso arbennig yn Kutaisi, tref yn Georgia sydd wedi'i gyefeillio hefo Casnewydd.
Mae'r bobl yno'n meddwl bod 'ymwelwyr' yn rhodd gan Dduw.
A dweud y gwir gawson nhw groeso arbennig ym mhobman.
Fuodd Andrew a Hywel yn annerch 150 o ferched mewn coleg yno ac yn s么n am gefndir diwylliannol Cymru (gwerth eu clywed, mae'n siwr!!).
Roedd croesi'r ffin i Azerbaijan yn dipyn o brofiad hefyd - roedd criw'r confoi a th卯m Cymru ei hun wedi cael trafferth cael Visas - ond fe lwyddon nhw i fynd i mewn heb broblem yn y diwedd.
Roedd rhai o'r 'gards' ar y ffin yn meddwl mai hogia t卯m Cymru oedd hogia'r confoi ac iso tynnuu eu llun.
"Tasan nhw ond wedi sbiio ar folia rhai ohonon ni, fasan nhw'n gwybod yn gallach," meddai Gavin.
Roedd yr hogia'n dipyn o destun sbort yn ninas Ganja hefyd am eu bond yn gwisgo shorts - pawb yn rhythu ac yn rhyfeddu, yn pwynto bys ac yn chwerthin.
Roedden nhw'n gweld y peth yn ddigri ofnadwy - fel tasa rhywun yn cerdded yn noeth drwy Gaernarfon.
Codi pres
Fe lwyddodd hogia'r Astra godi ymhelll dros 拢2000 at gartrefi plant amddifad cyn cychwyn ac yn ystod y daith fe gawson nhw gyfle i ymweld 芒'r cartrefi sy'n cael pres gan elusen G么l.
Roedd hynny'n dipyn o brofiad meddai'r criw - roedd y plant more hapus er eu bod nhw wedi cael bywyd trist ofnadwy.
Mae'r car bach coch bellach yn nwylo ysgol b锚l-droed leol i blant amddifad yn Georgia a bydd tipyn o'r pres a gasglwyd yn mynd tuag helpu plant yn ninas Gori - lle'r oedd y plant i gyd wedi colli'u rhieni achos y rhyfel llynedd.
A'r g锚m?
Yn goron ar daith anhygoel - fe enillodd Cymru'r g锚m. "Fe ddaeth John toshack at y ffans i ddiolch inni am ddod. Y 'Canton Hotel' oedd un o'r noddwyr ac fe fynnodd o gael sgwennu ar ein baner ni, am mai hogyn o Canton ydy o."