Mae capten t卯m rygbi Dre wedi bod yn plastro, bocsio a chwarae lot o rygbi - yn Iwerddon, Seland Newydd a'r Unol Daleithiau. Mark ydy'r unig Gofi go iawn sy'n chwarae rygbi i Gaernarfon ar y funud. Fe'i magwyd yn Stryd y Farchnad, o fewn muriau'r Dre, yn un o bedwar brawd.
Gadawodd yr ysgol i fod yn brentis plastrwr ond ar 么l tair blynedd yn dysgu'i grefft a chwarae i d卯m dan 19 gogledd Cymru fe gododd ei bac a mynd i chwarae i Ballina yn County Mayo, Iwerddon. [Yr hyfforddwr yno gyda llaw oedd Gary Samuel, cyn-fewnwr Caerdydd a Phontypridd]. Clwb hanner-broffesiynol ydy Ballina, felly roedd y plastro'n handi!
Gwnaeth gryn argraff yn Ballina nes cael gwahoddiad i fynd i ben draw'r byd i chwarae. Ym 1998 ymunodd 芒 chlwb Harbour yn Otago, Seland Newydd. Un o'i gyd-chwaraewyr yno oedd yr enwog Jeff Wilson, a chwaraeodd i'r Crysau Duon ac a gynrychiolodd ei wlad ar y meysydd criced. Dychwelodd i Ballina ar 么l blwyddyn yn Otago ond, ar 么l tair blynedd arall yn Iwerddon, daeth y chwiw i deithio eto. Yr Unol Daleithiau oedd hi'r tro yma.
'Y cwbl nesh i,' meddai Mark, 'oedd mynd ar y we a ffendio clwb. Ac mi fush i yn Breconbridge, Colorado am ryw bum mis.'
Ond yn ei 么l y daeth o - ie, am y trydydd tro - i Ballina a threulio tymor yn gapten. Dyna pryd y cafodd anaf drwg a llawdriniaeth i'w gefn, anaf a'i gyrrodd i focsio am sbel!
'O'n i i isho cadw'n ffit, ond oherwydd 'y 'nghefn fedrwn i ddim rhedeg gormod,' meddai. 'Efo clwb bocsio Dre gesh i bum Caernarfon ffeit - ennill pedair.'
Mae'r cefn wedi gwella erbyn hyn ac mae Mark yn gapten ar glwb rygbi hogia Caernarfon am y trydydd tro. Peidiodd y teithio. Mae'n dal i blastro i Dan Jo Bontnewydd, ac mae'r cawr ail-reng v 'setlo' rwan, medda' fo. Awel a'r newydd-ddyfodiad, Elis Owain sy'n gyfrifol am hynny! Curodd y Cofis Old Illtydians, Caerdydd ar y Morfa dan gapteiniaeth Mark - gorffen mor uchel 芒 phosib yn y Gynghrair ac ennill cwpan y Gogledd ydy'r prif nod r诺an.
|