成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Dre
Cartwn Blair, Bush a Saddam yn Dre.
17 Mawrth 2003
Hyd yn oed os oes gas gynnoch chi wleidyddiaeth gwyliwch The Politics Show' bob amser cinio dydd Sul ar 成人快手 1. Neu o leia y ddau funud ola' gan fod y rheini bob wythnos yn dod o Gaernarfon.

Fe gewch chi lot o hwyl efo Tony Blair, George Bush, Y Pab, Saddam Hussein ac ambell wag arall ar hyd a lled y byd. Cartwn byr, dychanol sy'n cloi The Politics Show ac mae o'n cael ei wneud yn Dre.Ar 么l cyfnodau llwyddiannus fel cartwnydd gwleidyddol gyda'r Western Mail ac yna ar Dragon's Eye' i'r 成人快手 yng Nghaerdydd mae Mal Humphreys - Mumph - wedi ennill cytundeb ugain wythnos gyda'r 成人快手 yn Llundain.

Bob bore Mercher fe fydd Mal, ei frawd Wyn, Morgan Griffiths o Lanfairfechan ac Emyr Roberts yr actor a'r dynwaredwr o'r Felinheli yn cyfarfod yn eu swyddfa fechan yn Cibyn ac yn dechrau crafu pen. Erbyn amser cinio dydd Gwener mi fydd yn rhaid cael syniad, ei sgriptio, (fwy nac unwaith), creu dau gant o luniau, eu golygu a'u lleisio!

Pan alwodd PAPUR DRE yn y swyddfa, roedd yr hogia newydd benderfynu mai ymweliad Tony Blair 芒 Gogledd Iwerddon fyddai deunydd eu dychan y Sul canlynol. Y rhaglen deledu Countdown (neu County Down yn hytrach) oedd yr arf yn mynd i fod - Richard Whiteley yn y gadair a Gerry Adams ac Ian Paisley yn gorfod dewis y llythrennau, fel UUP, SDLP ac UDE. Mi fyddan nhw'n cael trafferth i ddod o hyd i'r gair PEACE wrth gwrs!

Dan ni'n gweithio fel t卯m, meddai Mumph. Mae gan bawb ei arbenigrwydd. Dwi 'di bod yn potsian efo'r hen bolitics ma ers blynyddoedd. Ma' Wyn yn greadigol iawn, wedi gweithio yn y theatr ac ym myd ffilmiau ac mae pawb yn gwybod cystal dynwaredwr ydi Himyrs. Gan Morgan wedyn y mae'r arbenigedd mewn animeiddio, wedi gweithio i Gwmn茂au Siriol a Cartwn Cymru ar gynyrchiadau adnabyddus fel Gwr y Gwyrthiau.

Un o Lan Ffestiniog ydi Mal yn wreiddiol ond mae o wedi byw yng Nghaernarfon ers ugain mlynedd. Gladwen, ei wraig sy'n gofalu am y gwaith gweinyddol a Ceri ac Aron y plant ydi'r beirniaid answyddogol.

Beirniadwch chi drosoch eich hunain. Mae'r Politics Show bob dydd Sul am 12 o'r gloch.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy