成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Dre
Brycheiniog Gwyl cariadon Cymru, Ionawr 25 - Dydd Santes Dwynwen...
Ionawr 2003
Stori Dwynwen fel na glywsoch chi'r stori erioed ...

Pan ofynnodd Miss Tomos Welsh i'n dosbarth ni sgwennu am Santes Dwynwen o'n i dipyn bach yn gobsmacd achos o'dd gin i ddim syniad pwy o'dd hi ar y dechra. Ond mi fuosh i'n holi Taid am y matar a mi ges i lot o help achos mae o'n gwbod lot am hanas a hen histri of W锚ls a petha felna, yn enwedig merchaid medda Nain.

Ddudodd Taid bod Dwynwen yn byw yn y chwechad ganrif, a ma' hynny ers talwm yn 么l, go iawn. O'dd hi'n fodan handi a mi o'dd hi'n ferch i Brychan, brenin lle o'r enw Brycheiniog. Lle bach yn ymyl Sowth W锚ls ydi fanno ond mae 'na fynyddoedd mawr yno medda taid o'r enw Banana Brycheiniog. Odd gin Dwynwen frawd a chwaer o'r enw Ceinwen a Dyfnan, ond dio'm ots am rheini rwan achos dydyn nhw ddim yn bwysig tan diwadd y stori. Teulu hapus iawn oeddan nhw efo lot o bres ac yn byw mewn ty crand efo dodran neis. O'ddan nhw yn cal te partis mawr a gwledds yn amal.

Un tro, mi ddaeth yna rhyw foi o'r enw Tywysog Maelon Dafodrill i un o'r partis yma. Odd o'n ddyn pwysig ac yn prins run fath 芒n Prins Charles ni, dim ond bod hwn yn foi smart efo merchaid yn licio fo. Nath Dwynwen ffans茂o fo str锚t aw锚 a ista wrth 'i ochor o drwy'r nos ac erbyn diwadd y noson, wedi cael last dans a bob dim, mi o'dd y ddau in love go iawn.

Nath Maelon fynd at Brychan 芒 gofyn:Sud ma'i dallt hi i gael priodi efo hon?'A mi ddudodd hwnnw Oc锚 ta, awn ni i ordro capal.'

Ond doedd Maelon ddim isio aros, a mi ofynnodd o i Dwynwen fynd i ffwr' efo fo y noson honno i fyw talu mewn castall yn bell, bell i ffwr'.
Sori,' medda Dwynwen. Rhaid i ni briodi gynta.' Y.. Posh!' medda Maelon. A mi aeth o yn reit stropi a llyncu mul go iawn a cherddad allan. Welodd neb mono fo wedyn chwaith.

Ar 么l hyn i gyd, mi aeth Dwynwen yn ypset achos o'dd hi'n licio fo deep down. O'dd hi'n crio ac yn nadu nes o'dd pawb wedi cael llond bol ar ei sterics hi. Wedyn aeth hi am dro i'r coed i feddwl a mi nath hi gysgu yn ganol y chwyn. Wnaeth hi gael breuddwyd neis, a mi ddeudodd angylion wrthi hi anghofio am Brychan achos o'dd o wedi cael ei droi yn lwmpyn o rew am fod mor bowld.

Ond wnath Dwynwen ddeud wrthyn nhw:
Tynnwch o allan o'r ffrij. Dwi wedi anghofio amdano fo rwan beth bynnag. Dwi'n mynd yn nun!
'Lleian ydi nun yn Gymraeg medda taid, a dim lleian bwr' chwaith. Mi o'dd Dwynwen yn mynd rownd Cymru wedyn yn gwneud petha da, ac yn helpu pobol dlawd ac yn s么n am air Duw. Radag hynny, mi o'dd yna lot fawr o bobol ddrwg yn byw yng Nghymru, jyst fel heddiw, yn enwedig yn Sir F么n. Felly mi a'th hi yno efo Ceinwen a Dyfnan mewn cwch bach, achos ddudodd Taid bod Tomos ap Telford ddim wedi dechra codi Pont Menai eto.

O'dd gynnyn nhw ddim l么n newydd na tr锚ns na dim byd chwaith, er bod Mam Cymru yn byw yno. Nath hi ga'1 planning i godi eglwys ar Ynys Llanddwyn achos o'dd yna filodd o fisitors efo pres yn mynd i fanno, a mi ddoth yno lot fawr o ferchaid i fod yn lleians efo hi.

Yn fanno buon nhw am hir iawn yn gwneud gwaith da yn helpu pobol, achos o'dd hynny cyn dyddia meals on wheels a marij geidans dach chi'n gweld, a chyn bo hir mi ddudodd rhvwun bod y Dwynwen 'ma yn ddynas dda, ella y dylan ni alw hon yn Sant.

lawn,' medda pawb, geith hi fod yn santes cariadon, achos nath hi wrthod mynd i ffwr efo'r hen sglyfath Maelon yna.'A dyna pam 'dan ni'n cael Diwrnod Santes Dwynwen rwan, medda Nain achos ni yn W锚ls sydd bia hi, a mae hi'n lot gwell peth na'r hen Falentein yna. Dwi'n meddwl y bydd Taid yn rhoi cardyn Santes Dwynwen i Nain ar Ionawr 25. Sgwn i geith Miss Tomos Welsh un?

Jason Wayne Hughes


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy