Ac, yn 么l ei berchennog, Buddug Jones o Rosbodrual, bu'r profiad yn un gwerth chweil a'r daith yn hwylus dros ben iddi hi ac Ivy.
Fel y gall un o gyfranwyr PAPUR DRE dystio, eisteddodd y labrador du yn dawel wrth goesau ei feistr drwy gydol y daith i'r brifddinas ac yn 么l.
I Ivy does 'na ddim byd i'r busnes hedfan 'ma!
Ac mae Buddug yn si诺r o ddefnyddio'r gwasanaeth eto.
'Mae'r staff yn y Fali ac yng Nghaerdydd yn hynod o gl锚n,' meddai Buddug, 'ac yng Nghaerdydd mae nhw newydd benodi rhywun penodol i edrych ar 么l ac i wneud bywyd yn haws i bobol fel fi.'
Mae Robin, un o feibion Buddug, a'i deulu (ynghyd a'i chwaer, Nerys) yn byw yng nghyffiniau Caerdydd felly mae'n bur debyg y bydd 'na drip arall yn yr awyr i Buddug ac Ivy o hyn i'r Nadolig.
|