Cofi a ddaeth yn arwr i'r Toon Army a th卯m p锚l-droed Cymru.
Dechreuodd Ronald Wyn Davies ei yrfa b锚l-droed gyda chlwb Deiniolen cyn symud i chwarae i d卯m Llanberis yng Nghynghrair Caernarfon a'r Cylch tra'n gweithio yn chwarel lechi Llanberis.
Cyn bo hir cafodd ei arwyddo gan glwb Caernarfon yn y Welsh League (North) a thra'n chwarae dros y dref, dechreuodd ddenu sylw clybiau mawr fel Aston Villa a Manchester United.
Ond aros yng Nghymru wnaeth Wyn gan symud i'r Cae Ras, Wrecsam. Wedi ennill Cwpan Ieuenctid Cymru pan oedd yn chwarae i Wrecsam ym 1960, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Gynghrair ym 1961 gan sgorio un o'r goliau pan drechodd Wrecsam Gaerwysg o 3 -1.
Roedd ei allu i ennill p锚l yn yr awyr yn denu sylw clybiau mwy na Wrecsam a chafodd ei arwyddo gan Bolton Wanderers ym 1962 am 拢20,000. Ond sicrhaodd Wyn ei le yn llyfrau hanes Wrecsam wrth sgorio tair g么l yn ei g锚m olaf i'r clwb - un o dri chwaraewr i daro hat-tric y diwrnod hwnnw - wrth i Wrecsam chwalu Hartlepool United 10 - 1.
Ym 1964 cafodd y fraint o wisgo crys coch Cymru am y tro cyntaf mewn g锚m yn erbyn Lloegr yn Wembley. Aeth ymlaen i ennill 34 cap gan sgorio chwe g么l mewn cyfnod o 10 mlynedd.
Sgoriodd Wyn 66 g么l mewn 155 g锚m gynghrair i Bolton cyn symud i Newcastle United am 拢80,000 ym 1966 - pris oedd yn record i'r clwb ar y pryd. Chwaraeodd ei g锚m gyntaf i'r Magpies yn erbyn y gelynion lleol, Sunderland, ym mis Hydref 1966. Daeth yn arwr ar Barc St James oherwydd ei ymroddiad ar y cae gyda'r Geordies yn ei fedyddio yn Wyn the Leap a The Mighty Wyn oherwydd ei ddoniau yn yr awyr.
Cipiodd Gwpan yr Inter-City Fairs - rhagflaenydd Cwpan UEFA - pan oedd gyda Newcastle ym 1969 wrth i'r Magpies drechu Ujpesti Dozsa o Hwngari a sgoriodd 40 g么l mewn 180 g锚m gynghrair ar Barc St James cyn pasio'r crys rhif naw i Malcolm Macdonald pan benderfynodd ddychwelyd i ogledd orllewin Lloegr ac ymuno 芒 Manchester City ym mis Awst 1971.
Bu bron i Wyn ennill y bencampwriaeth 芒 City yn ei dymor cyntaf ond methodd y clwb 芒 chipio'r gynghrair o un pwynt. Yna, wedi colli ei le yn y t卯m i Rodney Marsh, symudodd Wyn ar draws Manceinion ym mis Medi 1972 i ymuno 芒 Manchester United.
Roedd ei amser efo United yn un byr ac ymunodd 芒 Blackpool yn yr haf o 1973 cyn gorffen ei yrfa gyda Stockport County a Crewe Alexandra yn ogystal 芒 chyfnod byr yn Ne Affrica.
Bu'n rhaid iddo ymddeol o'r g锚m broffesiynol oherwydd anaf i'w ben-glin ond llwyddodd i chwarae llond llaw o gemau i Fangor cyn ymddeol yn gyfan gwbwl a dychwelyd i Bolton i ddechrau gyrfa newydd fel pobydd.
Ers ymddeol, mae Wyn wedi aros yn Bolton ac mae'n cael pleser mawr o fynd am dro 芒'i g诺n bob dydd!