Penderfynodd ddringo Kilimanjaro (19,340'), mynydd uchaf Africa gyda chriw o ffrindiau. Ond roedd ail reswm dros y fenter, sef codi arian at elusennau Clic Sergent, T欧 Gobaith a Chymdeithas Chwaraeon Llanrwst. Llwyddwyd i godi 拢6000.
Aelodau'r criw oedd Lisa Hampson, Adrian Jones, Tony Giddings, Haf Parry, Mared Pari, Shaun Williams a Rodney Owen. Maent yn dringo mynyddoedd gogledd Cymru gyda'i gilydd yn rheolaidd.
Cychwynnwyd ar y daith ar Hydref 9fed a chyrhaeddwyd copa'r mynydd ar Hydref 18fed. Meddai Selwyn, " 'Roeddwn yn emosiynol iawn ar y copa gan ei bod wedi cymryd nifer o ddyddiau o ddringo caled i gyflawni'r gamp a'r cyfan er mwyn achosion da."
Dywedodd aelod arall, Adrian
Jones, ei bod wedi bod yn bur
galed oherwydd yr oerfel a'r aer tenau oedd yn gwneud anadlu'n anodd ac roedd pob un yn colli ei wynt yn hawdd iawn. Meddai,"
'Roedd pawb yn gwisgo helmed a golau arni a golygfa fendigedig oedd gweld y rhes o oleuadau'n dirwyn i fyny'r llwybr - roedd fel golygfa o'r gofod."
Llongyfarchiadau iddynt a phen-blwydd hapus i Selwyn. Y Pentan
|