成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Pentan
Yr organ Symud organ i Budapest
Mawrth 2006
Gan H Gwyn Jones
Yn ddiweddar cefais y dasg o ganfod cartref newydd i organ Eglwys Hermon gan swyddogion yr eglwys.

Y mae'r adeilad yn cael el ddymchwel yn ystod yr wythnosau nesaf i wneud lle i gapel newydd sef Capel y Rhos. Felly dyma edrych i mewn i'r posibiliadau o gael prynwr i'r organ!

Adeiladwyd Hermon yn y flwyddyn 1903 ond ymhen dwy flynedd wedyn, sef 1905, yr adeiladwyd yr organ a'r gwneuthurwyr oedd Alexander Young, cwmni o Fanceinion.

Bu nifer o organyddion yn Hermon yn ystod y blynyddoedd ond Mary Nicholas gafodd y fraint o chwarae'r offeryn yn yr oedfa olaf ar lonawr 22ain eleni.

Wedi derbyn adroddiad manwl gan arbenigwr organau, Paul Josin o Lundain - un sydd 芒 chysylltiad agos a'r Gogledd gan fod ei briod yn hanu o'r ardal, daeth i weld yr organ yn Nhachwedd y llynedd.

Rhoddodd gyngor imi sut i fynd ati i werthu organ bib. Penderfynais mae'r peth doethaf oedd mynd ati i werthu ar ebay, gan nad oes galw am organau ym Mhrydain Fawr, mentro i werthu dros y byd, yn arbennig felly ar 么l clywed fod organ o eglwys Saesneg yn Llundain wedi ei darganfod mewn skip!

Wedi tynnu sawl llun o'r organ ar Ragfyr 20fed i'w hysbysebu ar ebay am 10 diwmod, croesi mysedd y cawn ymateb! Ymhen tridiau derbyn dwsin' o ymholiadau o bob rhan o'r byd yn cynnwys Portugal, Denmark, Iwerddon, Yr Almaen a Ffrainc, oll eisiau rhagor o luniau!

Erbyn y diwrnod olaf, Rhagfyr 28ain, roedd dau ddwsin wedi holi ac yn dangos diddordeb mawr. Pum cant o bunnoedd oedd y pris isafswm ar ebay.

Gwyddwn mai gwerth organ ail law oedd rhwng pedwar cant a mil o bunnoedd i'r rhaj sydd ddim yn gyfarwydd, fel hyn mae'r sustem yn gweithio: mae'r prynwr yn cynnig mwy na'r isafswm ac ar yr eiliad olaf, sef 19.40 y.h, ar y diwrnod olaf, sef Rhagfyr 28ain yn yr achos yma, y person fyddai'n cynnig y pris uchaf fyddai'n hawlio'r eitem.

Gwerthwyd yr organ am 拢921 i Blasius Szabo, gwr ifanc ugain oed sydd 芒'i gartref ger Budapest ac sydd yn bwriadu ei hail adeiladu mewn neuadd gyngerdd yno.

Ar ddydd Llun, 6ed o Chwefror, cyrhaeddodd Blasius, Fae Colwyn gyda thri o'i gyfeillion a dechrau tynnu'r organ yn ddarnau man ar gyfer ei chludo'n 么l i'w gwlad.

Cyn dechrau'r gwaith fodd bynnag, aeth Blasius at yr organ a dechrau chwarae, ac yn amlwg o'r nodyn cyntaf gwyddwn ei fod yn organydd dawnus dros ben ac wrth ei fodd.

Yr oedd y pedwar yn gartrefol iawn yn awyrgylch y festri ac yno buont yn cysgu am dair noson tra bu'r gwaith yn mynd ymlaen, gyda rhai o aelodau Hermon yn galw i mewn o bryd i'w gilydd gyda bwyd a diod iddynt.

Y nos lau ganlynol, am naw o'r gloch, cyrhaeddodd lori o Fudapest a dyma ddechrau llwytho'r organ, a oedd erbyn hyn, yn gannoedd o ddarnau man, wedi eu marcio a'u rhestru'n ofalus gan Blasius.

Mae Blasius wedi addo imi y bydd yn anfon lIun o'r organ yn ei chartref newydd ac fe drefnodd John Medwyn Jones, aelod arall o Hermon, gael plac i'w osod ar yr organ yn dynodi yr achlysur a'r cysylltiad agos 芒 Chymru.

Cewch weld llun o'r organ yn ei chartref newydd, gobeithio, ddiwedd y flwyddyn!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy