成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Pentan
Bedwyr Bedwyr a Chorwynt Katrina
Hydref 2005
Gyda thros fis wedi pasio ers i ddau gorwynt siglo taleithiau deheuol America mae'r straeon am dde Texas a dwyrain Louisiana wedi pallu.
Ond mae rhannau o New Orleans yn dal i fod o dan dd诺r. Mi gymerith fisoedd, os nad blwyddyn neu ddwy, cyn i'r taliadau yswiriant gael eu bancio a hyd yma does fawr o argoel pryd y daw taliadau swmpus i bobl adeiladu tai a busnesau newydd.

Beth ydy hyn i Ddyffryn Conwy? Wel ydy, mae New Orleans yn bell, ac acen Texas yn anodd i'w deall. Anodd hefyd amgyffred cryfder stormydd fel Katrina a Rita i ni yng Nghymru, ac eto, mae trigolion Trefriw a Llanrwst wedi cael blas o elfennau natur yn eu bywydau nhw'n ddiweddar.

Felly, am yr ail waith o fewn mis, waeth imi gyfaddef yn gyhoeddus bod gen i ddiddordeb penodol yn y llifogydd a'r dinistr yn New Orleans. Mae fy mrawd Bedwyr yn byw yno.

Mi wnaeth un sgwrs gymaint o argraff arna i wedi wythnos o'i ffonio am yn ail noson, fel imi holi'i ganiat芒d i recordio beth roedd yn ei ddweud am y torcyfraith, am ddiffyg arweiniad yr awdurdodau, ac am faint y difrod. Mi ddarlledwyd rhan o'r sgwrs honno ar Y Post Cyntaf ar Radio Cymru - ar 么l trafod yn hir gyda fy nghyd-ohebwyr a ddylien ni ddarlledu sgwrs rhwng dau frawd ar raglen newyddion.

Mi wnaethon ni, gan bod yr amgylchiadau'n unigryw, a chynnwys y sgwrs yn dadlennu'r anrhefn yn un o ddinasoedd enowocaf America.

Fel cynifer o'i gyfeillion a'i gydnabod, fe benderfynodd Bedwyr aros yn New Orleans yn lle ffoi i Texas, Alabama neu ble bynnag. I Gymro filoedd o filltiroedd o'i gartref, ble arall allai fynd? Ac am faint? Wedi byw yno ers 1989, mi baratodd yn ofalus ar gyfer tymor y corwyntoedd. Cadwai alwyni o dd诺r croyw a thuniau bwyd gyda bagiau pasta a reis yn ei d欧. Mi wrandawodd ar yr adroddiadau tywydd, a sylweddoli - yn wahanol i ddegau o filoedd o drueiniaid di-addysg - bod storm a hanner ar y gorwel.

Wnaeth o ddim ymfudo chwaith, gan fod strydoedd ger ble mae'n byw yn Chwarter Ffrengig New Orleans, yn sych, ac heb gael eu boddi gan lifogydd budr y Mississippi na dyfroedd llyn Pontchartrain. Ond hyd yn oed r诺an gyda thrydan wedi ei ail gysylltu, a d诺r ar gyfer golchi a thai bach - ond nid i yfed - wedi ail gysylltu, mae arafwch llywodraeth leol, a llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau, yn anodd ei ddeall.

Mi gymerith tua dau can biliwn o ddoleri, mae'n debyg, i drwsio effaith cynddaredd C Corwynt Katrina. Ac er na fydd Bedwyr - medda fo - yn gadael, mae'n gwestiwn arall a fydd tref parti a Mardi Gras Louisiana, fyth yr un peth eto.

Iolo ap Dafydd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy