Roedd yna athro hynod o ddifeddwl ac anghofus yn un o golegau Cymru un tro. Aeth i ddanfon ei wraig i'r orsaf un diwrnod a gwnaeth yn siwr bod ganddi sedd yn y cerbyd oedd wrth ei bodd. Yna rhoddodd yr arian t芒l am ei chludo yn llaw ei wraig a chusanodd y porter!
* * * * *
0s ydych am roi cynnig ar wella rhywun drwy fod yn esiampl dda, yr ydych yn newid dau er gwell. 0s ydych yn rhoi cynnig ar wella rhywun heb fod yn esiampl dda, nid ydych yn gwella cyflwr neb.
* * * * *
"Ni fum i erioed yn wraig hardd fy ngolwg," meddai Golda Meir a fu am gyfnod yn brif-weinidog Israel. "Roeddwn i'n ofidus iawn ynghylch y peth un amser, ond wedi i mi heneiddio rhyw ychydig deuthum i ddeall na allwn wneud dim byd yngl欧n 芒'r peth. Sylweddolais bod modd i ferch sydd heb fod yn hardd ei gwedd fyw bywyd bendithiol hefyd. Bu sylweddoli hyn yn nerth i mi ddatblygu fy adnoddau mewnol. Deuthum i ddeall bod merched sy'n methu pwyso ar eu tegwch, ac yn gorfod gwneud rhywbeth ar eu pennau eu hunain, ar eu mantais."
* * * * *
Mae edrych ar 么l darn o dir yr un peth ag edrych ar 么l babi. Rhaid gofalu bod ei wyneb yn l芒n, rhoi digon o fwyd yn ei fol a'i gadw'n sych odanodd.
* * * * *
"Pan oeddwn i'n ifanc iawn," meddai'r hen weinidog, "roedd arnaf eisiau pob peth, ac eisiau pob peth ar unwaith. Ond un noson Nadolig, breuddwydiais fy mod wedi mynd i ryw siop na fum ynddi erioed o'r blaen."
Roedd Angel yn sefyll tu 么l i'r cownter.
"Beth ydych chi'n werthu yma?" gofynnais.
"Popeth y mae arnoch ei eisiau," atebodd yr Angel.
Ac meddwn innau ar unwaith: "Mae arnaf eisiau tangnefedd ar y ddaear, a diwedd ar drallod a newyn a rhyfel ac afiechyd a ..."
Cyn i mi orffen, torrodd yr Angel ar fy nhraws.
"Mae arnaf ofn," meddai wrthyf, "nad ydych wedi deall yn iawn. Nid ydym yn gwerthu ffrwythau yma - dim ond hadau."
* * * * *
Mae pethau'n symlach lawer os ydych yn gwybod i drwch y blewyn pwy ydych.
R. Tudur Jones
* * * * *
Dri chan mlynedd yn 么l nid oedd yn Llanrwst ond 66 o dai, 40 yn Y Ro-wen, 17 yn Eglwysbach, 30 yn Ysbyty Ifan, 5 yn Llanddoged, 5 yn Llansantffraid Glanconwy a dim ond 4 ym mhentref Betws-y-coed. Yn 1810 yr oedd pedair melin flawd yn Y Ro-wen ac un ar afon Porthlwyd lle yr oedd hefyd felin bapur wedi ei chodi; melin wl芒n a melin lifio yn Nolgarrog.
Yn Y Ro-wen tua chanol y ddeunawfed ganrif yr oedd pedwar penteulu yn wehyddion; yr oedd yno dri gweithdy saer, tri o deilwrdai, a thri gweithdy crydd. Yr oedd yno hefyd dri saer maen, dau glwfer, un cowper, un sadler heblaw dwy efail gof: dau bandy yn ymyl a dwy iard gwneuthurwyr troliau, ac erbyn 1810 yr oedd yn y pentref prysur hwnnw ffatri wl芒n.
* * * * *
Roedd Picasso yn dweud bod beirniaid celfyddyd yn sgwrsio am gynnwys, arddull, tuedd ac ystyr pan fyddent yn taro ar ei gilydd. Ond pan fyddai arlunwyr yn cyfarfod, byddent hwy yn siarad am y mannau gorau i brynu tyrpant.
Roedd merch y Felin wedi cael plentyn a Chapten Jones Tre'r-dd么l oedd yn cael y bai, ond wrth fod gan y Capten arian i dalu am dwrnai fe enillodd yr achos llys. Roedd y Felin a Thre'r-dd么l yn rhan o stad Bodorgan yr adeg honno a Pritchard, Llwydiarth oedd y stiward. Pan glywodd fod merch y Felin wedi cael cam, fe gododd rent Tre'r-dd么l a gostwng rhent y Felin, ac fe fu'n rhaid i'r Capten dalu am y chwyddiant.
Y mae ci aeddfed yn rhagorol i gynnal sgwrs, fel y g诺yr pob un ohonom sydd wedi anfon y teulu am wyliau, a byw am bythefnos gyda chi a rhewgell. Nid oes neb yn gwerthfawrogi athrylith hynod eich ymddiddan cystal ag y gwna ci. Pan fyddwch yn sgwrsio gyda'r ci am ennyd y mae'r creadur yn mwynhau ei hun gymaint nes y bydd yn rholio ar hyd y llawr, yna gorwedd ar ei gefn a chicio'n hwyliog bob yn ail a griddfan yn orfoleddus. Ychydig iawn o wragedd fydd yn ymollwng a mwynhau eu hunain fel yna!
* * * * *
Tybiwn fod tad O.M. Edwards yn ei funudau olaf yn cydio'n dyn yn y byd hwn, ond fod yr hen bregethwyr yn ei gyfarfod.
Anghofiodd ble yr oedd wrth groesi terfyn deufyd.