成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Pentan
Bydd Only Men Allowed yn cymryd rhan i godi arian Penblwydd Hapus
Mai 2009
Ar 27 Mai bydd Hosbis Dewi Sant yn 10 oed ac ym mis Gorffennaf bydd T欧 Gobaith yn 5 oed.

Mae 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y diwrnod y cafodd tywarchen ei thorri yn Llandudno gan Martin Lewis (Darlledwr Newyddion y 成人快手) a hefyd un bob un gan 20 maer lleol.

Mae'r hosbis wedi symud ymlaen o fod yn cynnig gofal dyddiol yn unig i fod erbyn hyn yn gallu derbyn 11 o gleifion preswyl.

Mae'r ganolfan Gofal Dydd yn cynnig sylw mewn dull holistig i'r cleifion a'u teuluoedd drwy arbenigedd t卯m o nyrsus, meddygon, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, therapyddion cyflenwol a gweithwyr ar gael i drin traed a gwallt.

Mae'r pwyslais yn cael ei roi ar wneud y profiad yn un pleserus a dibryder i'r claf, ei ofalwyr a'i deulu a'r prif nod yw diwallu anghenion yr unigolyn.

Yn yr un modd mae'r gwasanaeth a gynigir yn Nh欧 Gobaith wedi datblygu'n sylweddol drwy ofalu am blant angeuol wael a'u teuluoedd.

Mae'r gofal yn cael ei deilwrio ar gyfer pob unigolyn a mae'r hyblygrwydd yma yn rhoi cefnogaeth aruthrol i deulu pob plentyn.

Wrth gwrs, nid yw gofal o'r safon gorau yn dod am ddim!

Mae Hosbis Dewi Sant a T欧 Gobaith yn hynod o ddiolchgar i'r gwirfoddolwyr sydd wedi treulio blynyddoedd er mwyn iddynt gael gwireddu'r freuddwyd o fedru cael darpariaeth fel hyn yng Ngogledd Cymru.

Mae'r ddwy sefydliad yn gorfod codi ymhell dros 拢1 miliwn yn flynyddol ac yn gwerthfawrogi pob ceiniog sy'n dod o sawl cyfeiriad gwahanol.

Sut mae pobl yn mynd ati i godi arian?

. Cyfeillion Hosbis Dewi Sant - tanysgrifiad blynyddol o 拢 15

. Lotri'r Hosbis

.Siopau Elusennol - Conwy/Llandudno/Craigydon/Llandrillo yn Rhos/Bae Colwyn/Llanrwst

.Ailgylchu - hen ffonau symudol/darnau arian tramor/hen stampiau

.Blychau mewn siopau lleol.

.Rhoddion Dathlu - gofyn am rodd o arian yn hytrach nag anrheg penblwydd/priodas a.y.b

.Digwyddiadau noddedig

.Cymunroddion

Gan fod hon yn flwyddyn mor arbennig mae T欧 Gobaith wedi trefnu dathliadau swyddogol hefyd i godi arian ac yn cynnig rhai syniadau gwreiddiol i ddathlu pum mlynedd o wasanaeth.

. Trefnu taith gerdded noddedig gan ddefnyddio 5 yn thema - 5 km neu 5 milltir

.Te Parti gyda cymdogion/ffrindiau

.27 Mehefin - G诺yl yn Yr Wyddgrug - 'Clasuron yn y Parc' - Rhys Meirion, Sh芒n Cothi a David Kempster

.28 Mehefin - 'Corau yn y Parc' - 'Only Men Aloud'!' /Ysgol Glanaethwy/Mark Evans/C么r Trelawnyd/C么r Caerwys/C么r Rygbi Gogledd Cymru (01745 330000)

Gweithgareddau Hosbis Dewi Sant

. 7 Mehefin - Taith Gerdded y 2 Raeadr Abergwyngregyn

. 26 Mehefin - Dawns Haf Flynyddol

. 25 Gorffennaf - Garddwest Haf

. 14 Awst - Diwrnod Golff a Swper

. 15 Awst - Ras Hwyaid


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy