Annwyl Blant,
Hoffi pryfed cop? Hoffi neu gas谩u, mae digonedd i'w gweld eleni.
Dywed naturiaethwyr bod llawer mwy o bryfed cop a phryfed teiliwr neu jac-y-baglau (daddy long legs yn Saesneg) yn gwibio o gwmpas yr hydref hwn gan i'r tywydd dros y 12 mis diwethaf greu amodau perffaith iddynt fridio.
Su'n fanteisiol iawn hefyd i bob math o chwilod a thrychfilod eraill gan bod eu niferoedd wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Bydd llawer o adar sy'n bwyta pryfed cop a thrychfilod yn cael
mwy o fwyd i wynebu'r gaeaf.
Wyddoch chi bod tua 600 o
wahanol fathau o bryfed cop yn ynysoedd Prydain yn unig?
Maent yn hela pryfetach. Onibai am bryfed cop byddai pryfetach yn bla, ac yn gwneud bywyd yn annifyr iawn i ni.
Felly y tro nesaf y gwelwch chi yr hen arachnid bach wyth coes 'na yn diflannu dan y sofa, neu yn aros yn amyneddgar ar ei we yn yr ardd, cofiwch ei fod o'n eich helpu!
|