Daeth diweddglo i'r flwyddyn yn Rali'r Sir yn Nhalybont, Bangor, ar y 26ain o Fai.
Bu tri ar ddeg o aelodau'r clwb yn cystadlu, a chwarae teg iddynt, gwnaethant o'u gorau: o waith coedwigaeth, cyfeiriannu, codi pabell a photshio 诺y, chwilio am beli mewn sgip yn llawn gwellt, ymladd clustogau dros dd诺r, cneifio, paratoi oen, a diweddu gyda dau dim o'r Clwb yn y ras stretcher.
Gyda rhan helaeth o'r aelodau ynghanol eu harholiadau TGAU a'r coleg, mawr yw'r diolch i'r aelodau a roddodd o'u hamser i gynrychioli'r clwb yn y rali.
Pob lwc iddynt yn ogystal, yn eu harholiadau.
Bydd y clwb yn ail-agor ar yr ail nos Lun ym mis Medi.
 |