Tynnwyd sylw hefyd mewn sgwrs a hwn a llall, at y ffaith fod tipyn llai nifer yn y gynulleidfa. Roedd hyn i gyd yn ffaith, ond mae'n ffaith hefyd i ni gael G诺yl Ddrama'r Pentan eto eleni, a honno'n 诺yl lwyddiannus.
Llwyddwyd i gynnal dwy noson hwyliog gyda'r cwmn茂au yn diddori, a'r gynulleidfa yn mynegi eu gwerthfawrogiad trwy eu hymateb cadarnhaol a chefnogol.
Arweinydd yr 糯yl oedd Gwynn Griffith; ac fe wnaeth ei waith yn
ddeheuig a chartrefol fel arfer.
Y Beirniad oedd Mari Gwilym, ac roedd hithau hefyd yn gartrefol ac
yn llawn hwyl.
Y cwmni cyntaf i ddod i'r llwyfan ar y nos Lun oedd Cwmni Drama
Nebo i berfformio y ddrama 'Arall Gyfeirio' gan Eirlys Wynn Jones. Y
cynhyrchydd oedd Glenys Tudor Davies.
Golygfa:- Ystafell fyw mewn ffermdy, wedi ei threfnu yn gynnil. Ar y llwyfan roedd gwraig y ffarm Gwen (Nan Davies) yn gwau, a'r g诺r Huw (D J Williams) yn darllen. Miss Penelope Smith (Ceri Hughes) yr athrawes, wrth fwrdd yn marcio gwaith plant. Aros ar y ffarm oedd hi. Roedd Dylan (Ieuan Lloyd), yn canlyn Sharon (Heledd Jones) a Sioned (Meinir Jones) yn 'ffrindiau' hefo Dr Tim (Emyr Williams).
Roedd y cyplau ifanc yn dod i mewn i'r t欧^ wedi i'r rhieni fynd i'w gwely. Daeth Dylan (mab y ffarm) a Sharon i mewn gyntaf. Mae'r tad yn clywed s诺n ac yn dod i lawr y grisiau. Gwelir Sharon a Dylan yn sgrialu i guddio tu 么l i lenni'r ffenestr. Yn syth wedyn daeth Sioned a Dr Tim i'r llwyfan. Unwaith eto clywir y tad yn dod i lawr o'r llom a'r
ddau ifanc yn rhuthro i guddio dan y bwrdd. Dyma ni felly sefyllfa ble roedd dau gwpwl ar y llwyfan yn cuddio. Gwelir y tad yn troi unwaith eto am y llofft, gyda chymorth nerthol ei wraig. Mewn ychydig daeth yr hen ferch o athrawes i lawr y grisiau wedi ei gweddnewid yn llwyr.
Roedd hi wedi gwisgo yn smart, ac yn amlwg yn disgwyl rhywun i alw. Dyna gnoc ar y drws, a phwy ddaeth i mewn ond ficer y plwy'!! Y Parchedig Gregory Jones Williams (Eryl Lloyd Davies). Credai'r tad fod yna ysbryd yn y t欧. Clywed s诺n a neb yno!
Diwedd y stori oedd i'r rhieni glywed fod eu mab Dylan a Sharon am briodi. Sioned y ferch am briodi 芒 Dr Tim, ac er syndod mawr i bawb fod yr athrawes, oedd yn hen ferch go-iawn Penelope Smith a Gregory Jones- Williams am briodi. Wyddai'r rhieni ddim am y carwriaethau tan y diweddglo!!
Ac i gloi'r cyfan dyma ysbryd yn cerdded ar draws y llwyfan.
Mwynhawyd y ddrama gan y gynulleidfa, a'u gwerthfawrogiad yn amlwg yn eu cymeradwyaeth. Yr ail ddrama oedd 'Lle Bo Camp, Bydd Rhemp' gan Gwion a Meinir Lynch yn cael ei pherfformio gan Glwb Ffermwyr Ifanc Ysbyty Ifan.
Golygfa:- Maes Pebyll. Daeth cwpl i'r llwyfan yn edrych yn rhai parchus iawn.
Mae'r g诺r yn mynd ati i osod y babell a'r toiled preifat iddyn nhw. Y wraig yn gwneud dim ymdrech i helpu, ac yn dipyn o ledi. Sharon (Siwan Hywel) yn cael ei difetha gan Edwin (Eilir Thomas).
Mae'r cwpl nesaf a ddaw i'r 'camp' yn hollol wahanol. Morus (Trystan ap Hywel) yn amlwg wedi cael ei ddifetha gan ei fam ac yn gadael i Nora (Buddug Eidda) druan wneud pob peth. Hi oedd yn gosod y babell, gwneud y bwyd, cario d诺r a phob peth arall. Roedd gosod y babell yn ddoniol iawn, ac yn berfformiad gwych gan Buddug Eidda.
Roedd Morus yn ffonio ei fam bob munud ac yn ei argyhoeddi ei fod ar ei ben ei hun yn gwersyllfa. O ganlyniad daeth mam yno, sef Wini (Sioned Roberts), a chael cryn sioc fod gan Morus gwmni. Yn llythrennol gafaelodd yn ei glust a'i gychwyn am adre. Roedd Nora r诺an ar ei phen ei hun! Daeth tramp i'r llwyfan ym mherson Carwyn Ellis. Bu'n chwilio a chwalu yn y bin sbwriel a dod o hyd i docyn loteri. Roedd Nora yn awyddus iawn i fod yn ffrindiau gyda'r tramp gan y gwelai fod siawns iddo ddod un gyfoethog iawn. Ond y diwedd fu iddo ennill dim ond degpunt.
Cafodd ei wthio yn y fath fodd gan Nora nes iddo blymio oddi ar y llwyfan ar ei ben i fin sbwriel. Gollyngdod i'r gynulleidfa oedd ei weld yn dod o'r bin yn fyw!
Drama hwyliog eto yn cael ei pherfformi gydag asbri.
Cynhyrchydd yr ddrama hon oedd Alun Davies.
Llwyddodd y cwmni yma i gadw tempo addas trwy'r amser a rhoi i ni
berfformiad boddhaol iawn.
Ar 么l y perfformiad yma cawsom gyfle i wrando ar anerchiad Y Llywydd - Y Parchedig Tecwyn Ifan. Cafwyd anerchiad arbennig ganddo, yn pwysleisio gwerth y ddrama fel adloniant, a hynny yn fyw ar lwyfan. Cyfeiriodd hefyd at y ddrama fel therapi i ryddhau pobl o densiwn, gall fod yn rhyddhad i'r actorion a'r gwylwyr fel ei gilydd.
Llongyfarchodd bwyllgor yr 糯yl Ddrama gan eu hannog i ddal ati.
Y cwmni cyntaf ar y llwyfan Nos Fawrth oedd cwmni Penmachno yn
perfformio 'Gwellhad Buan' gan David Jones. Cynhyrchwyd y ddrama
gan Olwen Griffiths.
Braidd yn araf oedd tempo'r actio ar y dechrau, ond yn fuan iawn fe
gydiwyd mewn tempo addas, gyda mwy o hyder, ac fe gawsom
berfformiad da. Dyma'r stori:
Roedd Tom, tan Ann yn ei wely wedi cael dos o'r ffliw, ac yntau a'i
fryd ar fynd i weld Cymru yn chwarae rygbi. Gwnaeth pawb eu gorau
i gael meddyginiaeth iddo. Daeth Megan Gwenda Rippon) a photel o
ffisig iddo ac fe gymerodd Tom (Geraint Thomas) y ffisig a'i yfed i
gyd er mwyn gwella. Ond ar gyfer ei rwbio ar y frest oedd y ffisig!
Galwyd am y Doctor, ac fe ddaeth hi ar y llwyfan yn drawiadol iawn
wedi gwisgo yn smart, ac yn portreadu y cymeriad yn arbennig o dda (Olwen Griffiths oedd yr actores). Gwelsom siopwr y pentref yn dod i edrych am y claf, er mai ar 么l y tocyn i'r g锚m 'roedd o mewn gwirionedd. Perfformiad da iawn gan Heddwyn Morgan fan hyn.
Golygfa ddoniol iawn oedd gweld Megan yn ceisio gwella'r claf trwy hudoliaeth. Troi'r gwely rownd, gwneud ystumiau o bob math a synnau aflafar, ond 'doedd dim yn tycio.
Yna daeth Ann (Dilys Roberts) i mewn a chyhoeddi ei bod wedi gwerthu'r tocyn am grogbris. Digon i brynu set deledu fawr i Tom er mwyn iddo gael gweld y gem yn niddosrwydd ei gartref.
Y cwmni olaf i ymddangos ar y llwyfan oedd Cwmni Uwchaled yn perfformio 'Y Briodas' gan Gwenan Griffyth. Cynhyrchydd y ddrama hon oedd Trebor Sbilbyry Roberts.
Bwrlwm paratoi at y briodas gawsom ni. Muriel y fam (Sian Edwards) yn llawn prysurdeb ac yn sicrhau pawb ei bod hi (In Charge) o'r holl bethau oedd yn mynd o chwith. Dyma rai ohonynt:
Sion y priodfab (Trystan Edwards) yn gollwng 'case' ar ei ben ac yn methu cofio dim. Tom y tad (Erfyl Edwards) yn edliw trwy'r amser y byddai yn well i'w ferch Eleri briodi ei hen gariad John. Bethan chwaer Eleri wedi gwisgo yn anaddas ar gyfer priodas, ac wedi yfed gormod.
Plismon ffug yn dwyn yr anrhegion a Sion y priodfab ddim yn troi i fyny o gwbl oherwydd ei gyflwr anghofus.
Ond! Roedd John (yr hen gariad) yno. Diweddglo hapus!! John ac Eleri yn cerdded am yr eglwys law yn llaw. I briodi? Si诺r o fod.
Yn dilyn y ddrama yma cawsom wrando ar anerchiad Y Llywydd - Y
Parchedig Eryl Lloyd Davies. Mawrygodd y fraint o gael bod yn Llywydd. Mae o wedi ymwneud 芒'r 糯yl Ddrama ers blynyddoedd, ac wedi cael mwynhad yn actio mewn nifer fawr o ddram芒u. Cofiai am lawer i dro trwstan - anghofio geiriau, symudiadau yn mynd yn angof a.y.y.b. Cofiai iddo ymddiheuro am wneud y fath lanast a chael yr ateb - "Peidiwch poeni, wedi gweld chi'n waeth lawer gwaith" Pwysleisiodd werth y ddrama, "All y teledu ddim cymryd lle bod yn rhan o berfformiad", meddai gan annog pawb yn actorion a threfnwyr i ddal ati.
Sylwadau'r Beirniad, Mari Gwilym
Tanlinellodd hi eiriau'r Llywydd, na alli dim gymryd lle y diddori byw. Gwaith t卯m, gyda'r perfformwyr a'r gynulleidfa fel t卯m yn dod at ei gilydd.
Cafwyd beirniadaeth adeiladol a charedig ganddi.
Roedd canmoliaeth i'r cwmn茂au i gyd. Dywedodd ei bod yn anodd dewis, ond dewis oedd raid.
Dyma'r dyfarniad:-
1. Cwmni Drama Ysbyty Ifan (Cwpan Banc y Midland)
2. Cwmni Drama Uwchaled (Cwpan Bob Parry a'i Gwmni)
3. Cwmni Drama Nebo (Cwpan y Pentan)