Ond efallai nad ydych wedi sylweddoli mai Alex Rose sydd wedi ysgrifennu'r scipt. Mae Alex yn enedigol o Dalybont, Dyffryn Conwy, yn fab i Keith ac Irene Rose, Capel Llwynygwaeaw, Llanbedr y Cennin. Ganwyd Alex yn 1961 ac aeth i Ysgol Gynradd Dolgarrog, ac yna ymlaen i Ysgol Dyffryn Conwy cyn graddio gyda B.A o Ysgol Gelf Chelsea, ac mae'n 么l-raddedig o Ysgol Gelf St. Martins. Cymerodd ddiddordeb mewn gwahanol grwpiau drama cyn darganfod y theatr ac astudio mewn ysgolion Addysg Gelf ar gyfer bod yn actor. Mae'n briod 芒 Lynne ac mae ganddynt un mab, Gabriel, sy'n 9 oed ac yn byw ar hyn o bryd yng ngorllewin Llundain. Mae wrth ei fodd yn dod yn 么l i Dalybont yn aml. Dyma ffilm hir gyntaf Alex ac mae wedi ei gomisiynu i ysgrifennu drama chwe rhan erbyn y mis yma o'r enw Baby Bet ac mae newydd orffen comedi ramantus An Ordinary Girl ac hefyd drama dwy ran am amser y rhyfel: My Friend the Enemy yn 2004. Crynodeb byr o'r ffilm yw bod Frank (Peter Mullan), g诺r gweithgar 55 oed, parchus yn ei gymdeithas yn cael ei hun allan o waith. Am y tro cyntaf yn ei fywyd mae Frank heb gyfeiriad. Pan mae ei ffrind, Danny (Billy Boyd), yn tynnu ei goes y gallai nofio ar ddiwrnod clir i Ffrainc mae'r syniad yn cael ei blannu yn ei feddwl. Trwy guddio ei gynlluniau oddi wrth ei wraig Joan (Brenda Blethyn) mae Frank yn benderfynol o roi ei fywyd yn 么l efo'i gilydd trwy geisio'r prawf dycnwch eithaf - i nofio'r Sianel i Ffrainc! Drwy wneud hyn mae yn cryfhau ei berthynas toredig 芒'i fab. Os nad ydych eto wedi gweld y ffilm, ewch i weld! Pob dymuniad da i Alex i'r dyfodol.
|