Bu i'r t卯m cyntaf ennill eu pencampwriaeth drwy ddod yn gyntaf yn Uwch Gynghrair Gwynedd, sydd wedi ei noddi gan Gwyliau Seren Arian Cyf., gan sicrhau'r man cyntaf gydag un gem yn weddill. Bu'r ail dim yn fwy llwyddiannus fyth, gan gipio'r Goron Driphlyg fel petai. Enillodd yr ail d卯m Adran Gyntaf Cynghrair Threeways Subaru Gwynedd, yn ogystal a Chwpan Ron Jones a Chwpan John Hughes. Cyflwynwyd cwpan y gynghrair ar faes chwarae Clwb P锚l-droed Conwy Unedig. Cytunodd y rheolwyr - Chris Williams a Martin Tomos ar gyfer y t卯m cyntaf, ac Iwan Roberts sy'n rheoli'r ail d卯m - fod y buddugoliaethau yma yn tystio i waith caled y chwaraewyr i gyd dros y flwyddyn olaf. Ychwanegwyd fod yr hogiau wedi creu gr诺p lle mae pawb yn chwarae dros ei gilydd, gan greu teimlad o undod yn y ddau d卯m. Mae'r ddau dim r诺an wedi cael dyrchafiad i gynghrair uwch, gyda'r ail dim yn cymryd lle'r t卯m cyntaf yn Uwch Gynghrair Gwynedd, a'r t卯m cyntaf yn codi i Gynghrair Cymreig Pentraeth Honda. Mae'r Clwb P锚l-droed yn darparu timau ar gyfer plant a ieuenctid hefyd, ac hynny ar gyfer gwahanol oedrannau. Mae'r timau yn dechrau ar gyfer plant dan 8 oed, ac mae timau wedyn ar gyfer pob oedran hyd at 17 oed, gan gynnwys timau merched dan 11 a dan 12 oed. Mae'r Clwb yn trefnu gweithgareddau ar gyfer yr haf, gan obeithio cydweithio hefo chlybiau chwaraeon eraill yn y dref a'r dyffryn. Ar brynhawn Sul, Gorffennaf 25ain, croesawir t卯m Merched Lerpwl i Barc Gwydir, am 2-30. Mae croeso i bawb ddod i wylio a chefnogi. Efallai fydd merched Lerpwl yn medru rhoi hogiau Llanrwst yn 么l yn eu lle...
|