Parhaodd prysurdeb yr wythnos gyntaf yma, gyda mwy o waith gwirfoddol yn ysgolion Yr Hender, Ysgol Feithrin y Gaiman a choleg Camwy. Bu'r criw yn paentio waliau, yn cynnal gweithdai chwaraeon, yn helpu'r plant gyda'i darllen ac yn dysgu ambell gan iddyn nhw.
Cyfarfu'r criw a phobl ifanc yr un oedran a nhw yma, ac fe wnaeth sawl un ffrindiau newydd, ac maent yn parhau i gysylltu trwy'r we.
Buont hefyd yn cynorthwyo ar gyfer paratoadau'r eisteddfod. Perfformiodd y c么r yn seremoni cyhoeddi'r Eisteddfod yn Nhrelew ac fe fuont yn brysur iawn yn gosod cadeiriau ar gyfer seremoni'r orsedd ac yn paratoi te'r Orsedd.
Cafwyd llwyddiant ysgubol yn yr Eisteddfod gyda'r c么r yn cael cyntaf ac ail, a Casi Wyn o Fangor yn ennill y wobr gyntaf ddwywaith mewn cystadlaethau canu!
Hoffai'r criw i gyd ddiolch i bawb a fu'n eu cefnogi wrth godi'r arian ar gyfer y daith fythgofiadwy yma. Cafodd pob un amser anhygoel.
|