Cafodd yr organ ei hadeiladu gan Thomas Casson o Ddinbych, yr unig un yng Nghymru oedd yn adeiladu organau.
Erbyn heddiw, dim ond pedair organ o waith ei gwmni ef sydd ar 么l, a dim ond dwy o waith Thomas Casson ei hun, un yng Nghapel Coch, Llanberis a'r organ
ym Methania, Eglwysbach.
Cartref cyntaf yr organ oedd gwesty St George, Llandudno. Fe'i prynwyd gan Bethania yn Ionawr 1920 am 拢310 gan dalu'r swm o 拢56 i W H Jones, Tan yr
Ywen yn Chwefror am ei symud a'i gosod yn y capel.
Tros y blynyddoedd mae'r organ '
wedi cael ei gwasanaethu a'i hatgyweirio droeon.
Erbyn hyn, nid oes llawer o ddefnydd arni o Sul i Sul - yn hytrach defnyddir organ fach drydan.
Fe hysbysebwyd yr organ ar werth yn 1994, ond, trwy lwc, ni ddaeth prynwr.
Fe'i defnyddiwyd ar ambell achlysur wedyn, un oedd angladd y diweddar Mr Rich Griffiths, Y Fron, yn 2002 pryd cafwyd 拢400 sef rhodd er cof am Mr Rich Griffiths aeth yn gyfraniad sylweddol at y gost o 拢608 i'w hatgyweirio.
Erbyn hyn, mae'n rhaid ei hatgyweirio eto ac wrth gwrs rhaid codi arian.
Ar nos Iau, Chwefror 12fed, daeth nifer o aelodau yn cynnwys y Parch Gerwyn Roberts a'n horganyddion at ei gilydd i'r festri i gychwyn pwyllgor ap锚l i godi arian tuag at gael yr organ yn 么l i'w chyflwr gorau.
Y cadeirydd yw Nerys Owen, yr ysgrifennydd yw Katherine Himsworth, y trysorydd, Bryn Hughes.
Yn bresennol hefyd roedd Bett Needham, eleanor Roberts, Helen Jones, Eirlys a Hefin Jones, John Williams a George R Jones.
Bydd symud ymlaen r诺an i dapio pob ffynhonnell arian bosibl ac edrychwn ymlaen at weld a chlywed yr organ yn lawn urddas.
Bydd unrhyw drin a thrafod a phwyllgorau yn agored i'r aelodau i gyd, wrth gwrs.