Mae'n amlwg fod dyfodol disglair iawn o flaen Paul, sy'n hogyn ifanc, 21 mlwydd oed. Cafodd y cyfle eisoes i gynrychioli t卯m cyntaf Wrecsam ugain gwaith.Ganed Paul yn Llanelwy, cyn i'r teulu symud i Fryn Pydew. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Glanwydden, ac yna Ysgol John Bright, Llandudno, cyn dechrau ar ei yrfa, sydd erbyn hyn yn un broffesiynol.
Bachwyd ef gan Wrecsam pan oedd ond yn ddeg oed - digwyddiad yn dangos ei dalent amlwg. Yn ei gyfnod ysgol bu'n chwarae i glwb ieuenctid Bae Penrhyn ac i d卯mau Ysgolion Aberconwy ym mhob oedran, a bob tro yn y g么l. Ni ddaeth chwarae mewn safle arall ar y cae i'w feddwl erioed. Er nad oedd ei deulu gyda diddordeb mewn p锚l-droed, buont, bob amser, yn gefnogol iddo.
Yn naturiol, cafodd Paul y cyfle i chwarae i d卯mau ifainc Cymru ar bob lefel. Mae'n awr wedi cyrraedd y brig, sef t卯m Cymru dan 21 oed, yn erbyn Azerbaijan ar faes y Barri, Parc Jenner. Bu'n eistedd ar y fainc sawl gwaith, tros flwyddyn a hanner, a da oedd ei weld yn aelod o d卯m a gurodd Azerbaijan o un g么l i ddim. Braf lawn i Paul oedd sicrhau rhwyd gwag.
Dywedodd hyfforddwr y t卯m dan 21 oed, Jimmy Shoulder, fod Paul yn llwyr haeddu ei gyfle, ar 么l bod mor amyneddgar ar y fainc. Cyfeiriodd Shoulder at yr anaf fu'r llanc o Fryn Pydew yn ei ddioddef am fisoedd, a hynny heb gwyno. Ar ddiwedd y g锚m yn y Barri, cafwyd ganddo arbediad rhagorol, digon meddai Jimmy Shoulder i brofi ei fod yn "g么l-geidwad rhyngwladol.
Pan oedd yr angen iddo brofi ei hun, gwnaeth hynny yn wirioneddol dda, ac ni ellir disgwyl mwy. "Gall y fath lwyddiant droi rhywun yn ben mawr, ond nid felly y mae hi gyda Paul. Cyfeiriodd at waith gwych ei hyfforddwr cyntaf, Grenville Millington, yn Wrecsam pan oedd ond deg oed. Yn hwyrach yn ei yrfa bu'n falch o gefnogaeth rhai fel Joey Jones, o Landudno, rheolwr yr ail d卯m, Fred Davies, Mark Morris, ac yn ddiweddar, Andy Dibble, o'r t卯m cyntaf, sy'n gweld Paul yn mynd ymlaen i d卯m cyntaf Cymru, maes o law.
Soniodd hefyd am y pleser a'r anrhydedd o weithio gyda'r enwog Neville Southall, eto o Landudno. Ef yw arwr Paul yn y byd p锚l-droed. Everton yw ei hoff d卯m, a braf fyddai ei weld yn chwarae iddynt hwy yn y Brif Gynghrair.
Mae Paul wedi chwarae criced gyda th卯m cyntaf Llandudno ac wedi bod yn ymwneud tipyn ag athletau hefyd, ond yn awr mae ei gytundeb p锚l-droed yn ei gyfyngu i'r b锚l gron. Dymunwn iddo ddyfodol disglair iawn; edrychwn ymlaen i weld y llanc o Fryn Pydew yn nh卯m cyntaf Cymru.