成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Pentan
Lonydd yn afonydd yn Eglwysbach Afon Conwy'n llifo'n filain
Ionawr 2005
Am yr eildro mewn llai na blwyddyn bu llifogydd difrifol yn ardaloedd Llanrwst a Threfriw.
A hwythau newydd gael trefn ar atgyweirio'r difrod yn dilyn dilyw Chwefror y llynedd, llifodd dyfroedd yr Afon Gonwy i dai'r trigolion yn y ddwy ardal gan ddifrodi eu heiddo unwaith yn rhagor.

Ymddengys bod y cwmn茂au yswiriant yn gwrthod ag ystyried ceisiadau i'w digolledu gan eu bod yn disgyn o fewn cyfnod o lai na blwyddyn. Oherwydd hyn mae perchnogion y tai a ddioddefodd effaith y llifogydd diweddaraf yn anobeithio ac yn teimlo y byddant yn garcharorion yn eu heiddo am ei bod yn annhebygol y byddai unrhyw un yn fodlon eu prynu petaent yn eu rhoi ar y farchnad.

Afon ConwyDdydd Sadwrn, drannoeth y llifogydd, ymwelodd yr AS Elfyn Llwyd, y Cynghorwyr lan Jenkins a Sian Lloyd Jones, yn ogystal 芒'r Cynghorydd Angharad Booth Taylor, sy'n aelod o gabinet Cyngor Conwy, 芒'r trigolion a ddioddefodd effeithiau'r d诺r.

Yn dilyn ei ymweliad, dywedodd Elfyn Llwyd y byddai'n codi'r mater yn y Senedd ddydd Mercher Ionawr 12fed ac yn tynnu sylw'r Prif Weinidog at broblem gorlifo Dyffryn Conwy.

Dywedodd y Cynghorydd lan Jenkins ei fod wedi cysylltu a swyddogion y Cyngor i drefnu cyfarfod brys o'r Cyngor i drafod yr argyfwng. Dywedodd y Cynghorydd Angharad Booth Taylor: "Dylid lledu yr afon i lawr y dyffryn a dyfnhau ei gwely er mwyn i'r dwr redeg yn gynt ac osgoi'r difrod sy'n cael ei beri yn Llanrwst a Threfriw Seneddol, Elfyn Llwyd, yn brwydro am gyllid ychwanegol i ariannu'r gwaith".

Pwysleisiodd y Cynghorydd Sian Lloyd Jones bwysigrwydd gweithredu'n gyflym ac apeliodd ar ei chyd-gynghorwyr ar Gyngor Conwy i'w chefnogi er mwyn goresgyn y broblem yn effeithlon ac ar fyrder.

Un eiddo a ddioddefodd, ar wah芒n i'r tai annedd oedd Bistro'r Tanerdy sydd ar lan yr afon ym Mro Helyg. Dywedodd aelod o Gyngor y Dref, y Cynghorydd Edgar Parry sydd 芒 chysylltiad teuluol 芒'r Bistro, bod difrod i lawr isaf yr adeilad pan lifodd yr afon dros y clawdd terfyn.

Dywedodd: "Galwais am gymorth gan y Frig芒d D芒n ond pan ddaethant yma roeddent eisiau 拢350 am yr awr gyntaf, 拢600 am yr ail a chynnydd pellach am bob awr ychwanegol. Pan wrthodais dalu, troesant ar eu sodlau a gadael. Mae busnesau yn ystyried eu dyfodol yn ddifrifol gan nad oes unrhyw sicrwydd yngl欧n 芒'r dyfodol".

Bu'r Cynghorwyr lan Jenkins a Sian Lloyd Jones wrthi'n ymweld 芒 phob cwr o'r dref o'r bore bach ddydd Gwener tan fore Sadwrn gan geisio rhoi cymorth i unigolion. Roeddent hyd yn oed yn clirio gwterydd a'u dwylo mewn ymdrech i ostwng lefelau'r d诺r.

Gwir yw dweud bod y glaw yn anghyffredin o drwm ond mae'n amlwg na all y sefyllfa barhau fel ag y mae. Mae angen cydweithrediad rhwng y Llywodraeth yn Llundain, y Cynulliad yng Nghaerdydd, Cyngor Conwy ac Asiantaeth Amgylchedd Cymru er mwyn llunio cynllun effeithiol fel na fydd pobl yr ardal yn wynebu'r fath ddinistr yn y dyfodol. Pan gynhelir y cyfarfod cyntaf gobeithio y daw pob cynrychiolydd ag addewid am arian sylweddol i'w bwrdd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy