Roedd yr ymgyrch ei hun yn golygu amrywiaeth o waith paratoi, gyda rhan helaeth o'r gwaith yn cynnwys mynd o amgylch busnesau'r dref yn cyflwyno'r syniad, gan geisio cael adborth yngl欧n ag egwyddor y cynllun gan berchnogion a'r bobl sy'n gweithio yn siopau a busnesau Llanrwst.Rhaid dweud fy mod wedi fy siomi ar yr ochr orau gan ymateb pobl y dref yn gyffredinol i'r ymgyrch. Heblaw am un ymateb negyddol, mi roedd trigolion Llanrwst ar y cyfan yn gefnogol dros ben i'r syniad, ac mi roedd y gefnogaeth hon yr un mor frwd ymysg y di-Gymraeg ag yr oedd ymysg siaradwyr Cymraeg eu hunain.
Hwn oedd y tro cyntaf i'r wythnos gael ei chynnal yn Llanrwst, a bwriad y Bwrdd yw dysgu o'r ymgyrch a gweld os oes modd ei chynnal yn yr un ardaloedd yn flynyddol, gyda golwg ar yr un pryd at ei hymestyn i drefi newydd ac ardaloedd eraill.
Hunanhyder
Mae'n amlwg fod hunanhyder pobl yngl欧n 芒'r Gymraeg yn cynyddu o hyd, gyda chenhedlaeth newydd o siaradwyr Cymraeg yn tyfu mewn awyrgylch lle mae defnydd o'r iaith yn gwbl ganiataol. Mae barn yn amrywio cyn belled ag y mae deddfau ynddi ond, serch hynny, mae deddfau pwysig yn eu lle erbyn hyn, a'r cam nesaf - efallai, y cam anoddaf - yw manteisio arnynt, a beichio'r gyfrifoldeb o fynnu defnyddio'r iaith.
Mae gan Iawer o sefydliadau cyhoeddus ymrwymiad r诺an i osod y Gymraeg yn gydradd gyda'r Saesneg, ac mae cyfrifoldeb gan y rhai sydd wedi ymrwymo i wneud hynny i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg yn ogystal 芒 Saesneg. Fe ddylen ni fynnu eu defnyddio nhw.
Mae nifer cynyddol o gwmn茂au preifat yn troi at ddefnyddio'r Gymraeg ac yn rhoi gwasanaethau Cymraeg mewn lle. Mae'n rhaid eu defnyddio.
Os oes gennym syniadau ar sut i wella gwasanaethau neu os nad ydym yn hapus hefo'r gwasanaeth Cymraeg sydd ar gael gan sefydliad cyhoeddus, yna mae'n gwbl ganiataol i ni wneud awgrymiadau, neu i leisio ein pryderon, wrth y sefydliad hwnnw.
Y Gweithgareddau
Gwelodd yr wythnos sawl gweithgaredd diddorol, rhai yn gyfarwydd ac eraill ddim. Yn eu mysg, cafwyd noson dda iawn gyda Llion Williams yn arwain noson gwis a Sion a Sian yn y Llew Coch, Llanrwst. Cafwyd cyfraniad nid bychan gan ambell i gymeriad a thrigolion lIeol, a hoffwn ddiolch i bawb gymerodd rhan. Y canlyniad oedd noson o hwyl yn y Gymraeg a Iwyddodd i ddiddanu lIawer o rai di-Gymraeg y dref.
Bu Myrddin ap Dafydd yn gweithio hefo rhai o blant Ysgol Bro Gwydir a Dyffryn Conwy, gyda'r canlyniad fod y plant wedi cael blas ar gyfansoddi barddoniaeth. Cafwyd darn hyfryd yn dilyn thema'r ardal leol.
I orffen yr wythnos, cafwyd Noson Ffraethineb yng ngwesty'r Dolydd lle bu timau o Felin y coed, Nebo a Phadog, Llangernyw, Penmachno, Llanddoged a Llanrwst yn cystadlu. Mi ddaeth yn amlwg yn fuan iawn yn y noson fod gallu hefo geiriau yn fyw ac yn iach yng nghyffiniau Dyffryn Conwy -a hynny dim ond wrth wrando ar y beirniaid a'r arweinydd!
Roedd hi'n braf cael tamaid i fwyta a llymaid i yfed, dim ond er mwyn cael saib o'r chwerthin! Diolch yn arbennig i Gwynfor Griffiths am arwain a dewis y tasgau, ac i Aelwen a Tomos John Williams am feirniadu a chadw trefn. Edrychwn ymlaen at y cyfarfod nesaf
Os oes gan unrhyw un ddiddordeb yng ngwaith y Bwrdd neu'r Fenter laith yn lleol, neu sylwadau o unrhyw fath yn gysylltied 芒'r iaith, yna cysylltwch 芒 ni ar bob cyfri. Gellir cysylltu hefo Dafydd ar 01492 642 108, neu hefo Meirion a'r Fenter ar 01492 642 357. Hoffwn ddiolch i bawb gyfrannodd at waith yr wythnos, ac er ei bod wedi dod i ben parhawn i siarad Cymraeg yn gyntaf!