成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Pentan
Cwmni drama buddugol Llangernyw Hwyl yr 糯yl
Ebrill 2005
Daeth cyfle eto eleni inni ddathlu G诺yl Ddrama y Pentan. G诺yl sydd erbyn hyn wedi ennill ei lle yng nghalendr selogion yr 诺yl. Argraffiadau o'r 诺yl gan Blodwen Jones.
Nos Lun
Daeth cynulleidfa niferus ynghyd i noson gyntaf yr 诺yl. Croesawyd pawb gan Arweinydd yr 糯yl, Gwynn Griffith. Llywydd y noson oedd Mr Aneurin Phillips, Rowen. (Prifweithredwr Parc Cenedlaethol Eryri). Cawsom anerchiad gydag ap锚l ynddi, ar i ni warchod ein treftadaeth a'n hamgylchedd, a cheisio creu cymunedau byw.

Cwmni Ysgol y Creuddyn a ddaeth i'r llwyfan gyntaf i berfformio y ddrama Perthyn gan Meic Povey.Roedd hon yn ddrama anodd iawn i bobl ifanc i'w pherfformio, ond yn wir fe lwyddodd y cwmni ifanc yma i ddal sylw y gynulleidfa. Nid galwad i fwynhau yn yr ystyr cyffredinol, ac i ymateb gyda chymeradwyaeth oedd hon, ond drama i hoelio ein meddyliau ar ddifrifoldeb trais yn y cartref.

Diolch i'r Cwmni am gyd-actio effeithiol, llefaru clir, a chyflwyniad egn茂ol. Diolch i'r cynhyrchydd Catrin Jones.

Yr ail gwmni oedd Cwmni Nebo yn cyflwyno drama gan Peter Hughes Griffiths Wrth y Pwll. Drama gomedi oedd hon, ac felly yn gofyn am actio, ac ymateb cwbl wahanol, a dyna gawsom. Fe agorwyd y ddrama gyda bywiogrwydd, ac fe lwyddwyd i gynnal hyn trwy'r perfformiad hwyliog yma.

Roedd yr actorion yn amlwg yn mwynhau cyd-actio, ac yn cymeriadu yn effeithiol a naturiol iawn; ac ymateb y gynulleidfa yn profi iddynt fwynhau.

Diolch i'r cwmni yma hefyd am ei gyfraniad, ac i'r cynhyrchydd Glenys Tudor Davies.

Nos Fawrth
Wedi gair o groeso gan Arweinydd yr 诺yl, croesawyd Cwmni Aelwyd yr Urdd, Llanrwst. Cwmni o actorion dan 21 oed, yn perfformio Trafferth Mewn Ysgol gan Gwenan Gruffydd.

Roedd y ddrama yma eto fwy ar gyfer oedolion, ond er hynny fe lwyddodd y cwmni ifanc yma i greu awyrgylch ystafell athrawon, ac i gynnal hynny trwy'r amser. Roedd yma gastio da ac yn naturiol fe ychwanegodd hynny at y perfformiad llwyddiannus hwn. Roeddent yn amlwg yn mwynhau cyd-actio dan gyfarwyddyd y cynhyrchydd Glenys Tudor Davies.

Cwmni Penmachno a ymddangosodd yn ail hanner y noson, cafwyd perfformiad o'r ddrama Eira Mawr gan John Evans. Dyma griw da, yn gwybod i'r dim beth oedd gofynion y ddrama hwyliog yma. Roedd yma gyd-chwarae effeithiol, gyda phob symuniad a'r llefaru wedi eu amseru yn berffaith. Roedd ymateb y gynulleidfa yn adlewyrchiad amlwg o'r boddhad a gafwyd o'r perfformiad gan Gwmni Penmachno. Cymerodd pob un o'r cast ran yn y cynhyrchu a gwneud gwaith da ohoni.

Llywydd y noson oedd Mr Dafydd Appolloni, Llanrwst. Mae Dafydd yn dal swydd yngl欧n 芒 hybu'r iaith Gymraeg. Ei neges i ni oedd ar i ni ddefnyddio'r Gymraeg bob cyfle a gawn, a dangos pa mor gyfoethog ydy'r Gymraeg.

Nos Fercher
Dyma ni wedi cyrraedd noson ola'r 诺yl am eleni. Y cwmni i ymddangos oedd Cwmni Drama Llangernyw yn perfformio Yr Opyreshion gan Elfrys Roberts.

Cawsomgyflwyniad ardderchog gan y cwmni yma. Roedd y castio wedi ei wneud yn ofalus, a'r actorion wedi llwyddo i bortreadu y cymeriadau yn wych iawn.

Ymdriniwyd 芒'r sgript yn gampus trwy lefaru clir, a phwyslais ar y dweud wedi cydio yn y gynulleidfa ac ennill ei hymateb. Ychwanegwyd at y perfformiad gyda symudiadau effeithiol ar y llwyfan, a chyd-chwarae wedi ei amseru i'r dim. Roedd yma 么l medrus y cynhyrchydd Arwel Roberts ar y cyfan.

Llywydd y noson oedd Y Parchedig Brian Wright. Mynegodd ei falchder o weld fod y Diwylliant Cymreig yn dal ei dir yn ardal Conwy; a hefyd fod yma gymaint o ddoniau i gynnal G诺yl Ddrama am dair noson. Credai fod y cylch yn haeddu canmoliaeth.

Talwyd y diolchiadau gan Glenys Tudor Davies, Cadeirydd Pwyllgor G诺yl Ddrama'r Pentan. Diolchodd i bawb a weithiodd yn galed i sicrhau llwyddiant yr 诺yl.

Wedi gwrando ar feirniadaeth adeiladol Gwion Lynch, roedd diddordeb mawr yn ei ddyfarniad. Dyma'r canlyniadau:

Categori Agored
Cyntaf - Llangernyw (Cwpan Banc y Midland)
Ail - Penmachno (Cwpan Bob Parry a'i Gwmni)
Trydydd - Cwmni Nebo (Cwpan y Pentan)

Ieuenctid o dan 25 oed
Cyntaf - Ysgol y Creuddyn (Tlws y Parch H Rhys Hughes)
Ail - Aelwyd Llanrwst (Tlws Arwelfa)

Actor Mwyaf Addawol
Rhannu'r wobr rhwng: Siana Fflur a Melanie Roberts, Cwmni Aelwyd Llanrwst (Tlws y Dyffryn)

Prit Actor yr 糯yl
Ioan Hughes, Cwmni Drama Llangernyw (Tlws Eryl Berry)

Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at raffl G诺yI Ddrama y Pentan.
Y Cvfranwvr:
Wynnstay, Llanrwst
Bys a Bawd, Llanrwst
Ieuan Edwards, Conwy
Siop Cynnyrch Cyfiawn, Conwy
Jean Morgan Roberts, Conwy
Clwyd a Gwyneth Jones, Conwy
Siop Na Nog, Llandudno
Gwesty Lodge, Tal y Bont
Un Di-enw

Gwnaeth y raffl elw o 拢255.00


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy