Dyma ychydig o
hanes fy oriau hamdden gyda fy merlen Machno Henna Lady, ond Henna i
ni.
Mae Henna yn 9 oed ac fe brynodd mam hi pan oedd hi'n 7 oed.
Nid oedd wedi gwneud llawer o gwbl ac mae popeth rydym wedi ei ddysgu rydym wedi ei wneud hefo'n gilydd gyda gwersi gan arbenigwyr yn
achlysurol.
Erbyn hyn, mae Henna yn eithaf profiadol ac wedi cystadlu
llawer iawn. Rydym yn cystadlu mewn 3 maes o farchogaeth sef dressage, neidio dros glwydi lliw a thraws gwlad. Ein hoff ddau ydi neidio a thraws gwlad.
Eleni, fodd bynnag, rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda'r dressage.
Ers y Pasg, rwyf wedi bod yn cystadlu'n gyson ar nos Fercher ac yn casglu
pwyntiau. Roedd mam a fi yn mynd ar 么l yr ysgol, ac fe fuom yn
llwyddiannus ac ennill y wobr am gasglu'r mwyaf o bwyntiau trwy'r tymor.
Mae marciau allan o gant yn cael eu rhoi am bob prawf dressage sy'n cael ei
feirniadu gan feimiad proffesiynol. Mae marciau Henna a fi wedi bod yn y
70au y rhan fwyaf o'r tymor.
Uchafbwynt eleni oedd cymhwyso ar ddechrau'r gwyliau haf i gystadlu mewn cystadleuaeth dressage cenedlaethol.
Roeddwn yn cynrychioli
Gogledd Cymru a Sir Gaer sy'n cael ei alw'n Ardal 5 gan y Clwb Merlod.
Roedd yn fraint ac yn anrhydedd cael cario enw fy nghlwb bach i, sef
Aberconwy, ac roeddwn yn teimlo'n gynhyrfus iawn.
Roedd y gystadleuaeth
yn cael ei chynnal ger Congleton yn Sir Gaer ar y 23ain o Awst.
Doedd dim
rhaid i ni deithio'n bell o'i gymharu 芒 rhai, dim ond cychwyn am 5.30 y
bore.
Roedd y bobl a barciodd drws nesaf atom yn dod o Gernyw ac wedi teithio'r diwrnod cynt.
Bu mam yn siarad 芒 rhai o'r Alban ac fe
enillydd fy adran i o Essex.
Fe ddois yn 7fed allan o 32. Roeddwn yn
teimlo'n falch iawn. Roedd yn ddiwmod braf a chynnes gydag aw:
hapus.
Roedd yn rhaid i mi fynd i gasglu fy ruban hardd aur a du
llawer iawn o bobl.
Roedd yn ddiwmod bythgofiadwy. Dyma lun o i
fi yn ein hoff faes - neidio dros glwydi lliw mewn cystadleuaeth yn 5
ym mis Mehefin.