Mae toiledau pentref Rowen yn un o'r rhain. Cynhaliwyd cyfarfod yn y pentref i drafod yr uchod ac roedd consyrn mawr ymysg y pentrefwyr a phobl sydd yn rhedeg busnesau yna. Mae Rowen yn bentref lle mae nifer o gerddwyr yn ymgynnull cyn cychwyn allan am y diwrnod - a mae yna lawer yn defnyddio'r toiledau cyn cychwyn ar eu taith ac wedi dod yn 么l. Mae perchennog Y T欧 Gwyn, tafarn y pentref, yn poeni y bydd yna lawer yn cerdded i fewn ac allan o'r dafarn i wneud dim ond defnyddio'r toiled. Mae yna fwyty hefyd yn y pentref sydd a'i berchennog yn poeni am yr un peth. Nid oes toiledau o gwbl ym mhentref Ty'n y Groes a mae hyn yn digwydd yno'n aml meddai Mr Peredur Morris, perchennog Y Llew Coch. Cynhelir carnifal yn flynyddol yn Rowen - maent yn dibynnu ar y toiledau ar gyfer y diwrnod; byddai gorfod llogi rhai dros dro yn gost ychwanegol ar y diwrnod. Mae nifer o erddi Rowen ar agor i'r cyhoedd bob yn ail blwyddyn - achlysur pan fydd cannoedd yn heidio i'r pentref. Mae angen toiledau'r Neuadd Goffa a'r rhai cyhoeddus ar y diwrnod hwnnw. Y rheswm sy'n cael ei roi dros y cau yw fod y gost o drwsio ac adnewyddu'r toiledau i safon derbyniol yn un enfawr. Mae pentrefwyr Rowen wedi gofyn i gynghorwyr y sir ailfeddwl a hefyd gofyn am amcanbris o fwy nag un ffynhonnell.
|