Clwb cerddwyr 'Y Pentan' yn ddeg oed! Mehefin 2003 Roedd yn achlysur arbennig ar bnawn Sadwrn, y 30ain o Fai i aelodau Clwb Cerdded 'Y Pentan' gan eu bod yn dathlu pen-blwydd 'Y Clwb' yn ddeg oed.
Penderfynwyd dathlu drwy fynd ar yr un daith gerdded 芒'r un gyntaf un, sef cychwyn o Draeth Penmorfa yn Llandudno ar hyd y traeth i Ddeganwy. Yn y llun, fe welir y cerddwyr, (a Cadi) yn barod am eu taith. Fe fentrodd tri ar hugain y tro yma, ac wrth lwc roedd y tywydd yn fendigedig.
Dathlu pen-blwydd y Clwb Cerdded gyda diod o Coco-Cola. Wir-yr!!
Ar 么l cyrraedd Deganwy, penderfynwyd bod yn rhaid cael diferyn bach i ddathlu (wrth fod y tywydd mor boeth), ac roedd yn braf cael ymlacio yng ngardd y gwesty.